Main content

Penderfynodd y ddaear

Penderfynodd y ddaear, ceidwad y byd
Nad oedd hi am aros yn ei hunfan o hyd,

A mynd wnaeth hi a gwibio bob blwyddyn o gwmpas yr haul
A phwyso’n ôl ac ymlaen ar ei hechel bob yn ail

A’i gwneud dau dymor yn eithafion y flwyddyn
Yn oer yn y gaea’ ac yn boeth yn yr haf wedyn.

A dyma bobl yn dweud, “Wel am syniad da!
Ac am fod y ddaear ’di symud, fe gaiff pawb wyliau ha’!”

Yr ysgolion yn cau, ac yn wir, y mae’r plant
I gyd yn credu fod y ddaear yn sant

Am fod ’na gyfle am Sioe a Steddfod a gŵyl
Ac amser i’w gofio ac andros o hwyl.