Main content

Ffrindiau a Chystadleuwyr

Mae'r rhaglen hon yn son am gystadleuaeth, cyfeillgarwch a chwympo mas

Hyd: 11:53

Mae Enrique, sy'n nai i 'fam' Lara ym Mhatagonia, yn dod i aros ond mae Lara (12) wedi pwdu oherwydd mae'n rhaid iddi symud o'i hystafell hi i rannu 'stafell gyda'r babi. Ond mae unrhyw ddrwgdeimlad yn diflannu cyn gynted ag y mae Lara'n gweld Enrique yn camu allan o'r tacsi. Mae hi wedi gwirioni! Yn anffodus iddi hi, mae Monica (11) ac Akira (12) wedi gwirioni arno hefyd.

Y diwrnod canlynol yn y parc sgrialu mae'r tair merch yn dechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd am sylw Enrique. Dydy Tony (13) ddim yn deall y peth - beth sydd mor arbennig am y boi? Yn ystod y dydd, mae'r gystadleuaeth yn dwysáu rhwng y merched, a phan fydd Lara a Monica yn sylweddoli fod gan Enrique ddiddordeb yn Akira, mae eu cyfeillgarwch yn dioddef. Mae popeth yn cyrraedd uchafbwynt yn y sinema, lle mae'r merched yn achosi cymaint o stŵr nes bod Gabriel (13) yn colli ei dymer.

Mae gweld Gabriel mor ofidus yn dangos iddyn nhw i ba raddau mae eu gelyniaeth wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch. Mae'r merched yn cymodi ac yn addo peidio byth â dewis bechgyn dros ei gilydd. Mae Lara hyd yn oed yn helpu Akira drwy roi ei chyfeiriad e-bost i Enrique er mwyn iddyn nhw gael cadw mewn cysylltiad.

Pwnc: ABCh

Testun: Perthnasau

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth am reoli cyfeillgarwch ac archwilio sut i ddelio â sefyllfaoedd chwithig, gan gynnwys ffraeo.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• gwerthfawrogi teulu a ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro

a deall:

• y manteision o gael ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• sefyllfaoedd sy’n esgor ar wrthdaro

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.