Main content

Canllaw Gwrando Carwyn Ellis - Rhaglen 1

Gwybodaeth i gydfynd gyda rhaglen Carwyn Ellis.

Paul Horn - Agra

Wedi ei recordio yn y Taj Mahal, gwrandewch ar y reverb naturiol na.


Alice Coltrane
- Journey in Satchidananda

Ail-wraig y cerddor jazz chwedlonol John Coltrane. Roedd Alice yn chwarae’r piano, y organ, a’r delyn, ac yn canu ac yn cyfansoddi.


Joe Zawinul
- The Soul of a Village

Allweddellwr jazz o Awstria, enwog am berfformio gyda Cannonball Adderley.


Don Cherry
- Utopia and Visions

Trwmpedwr o’r UDA a symudodd i Sweden i fyw, roedd plant Don yn enwog hefyd. Neneh Cherry (Buffalo Stance, 7 Seconds, ayyb) ac Eagle-Eye Cherry y gwr a gaeth one-hit-wonder gyda’r gân Save Tonight yn y 90au.


Pharoah Sanders - Colors

Sacsoffonydd a berfformiodd efo mawrion fel John Coltrane ac Ornette Coleman, roedd Sanders yn enwog am ei dechnegau harmonig, aml-ffonig, a’i or-chwythu effeithiol ar y saxophone. Mae’n ffigwr pwysig iawn yn natblygiad yr arddull “free jazz”.


Dorothy Ashby
- The Moving Finger

Yn fwyaf enwog am chwarae jazz ar y delyn o bob offeryn, yn y recordiad yma mae Ashby’n arbrofi gydag offerynnau traddodiadol o Siapan.


Gabor Szabo - Kingfishers

Gitarydd jazz enwog o Budapest, yn Hwngari.


Quincy Jones - Gula Matari

Mae’r corff o waith sydd gan y dyn yma i’w enw yn anghredadwy o anferth. Fe ryddhaodd yr albym yma yn 1970.


Billy Paul - East

Yn fwyaf enwog am ei ganeuon soul Mrs Jones ac ‘Am I Black Enough For You?’ – yn ôl y sôn, Y Beatles ddaru ysbrydoli Billy Paul i drio cyfansoddi cerddoriaeth fwy prif-ffrwd. Daw ‘East’ o’i gyfnod cyn hynny fel cerddor jazz.


Leon Thomas
- China Doll

Canwr jazz avant-garde o dalaith Illinois, yn ddifyr iawn mi ddaru Leon Thomas deithio fel aelod o fand Santana yng nghanol y 70au.


Herbie Mann
– Mavue Over Blues

Ffliwtydd jazz o fri! Ys dywed yr enwog Ron Burgundy... “Hey Aqualung!”


McCoy Tyner
- Asante

Cychwynodd ei yrfa yn chwarae gyda John Coltrane, cyn mynd ymaen i ryddhau llawer o albymau ar label hynod bwysig Blue Note Records.



Miles Davis - Guinnevere

Un o’r cerddorion pwysicaf yn hanesjazz, mae hwn yn fersiwn o gân yn wreiddiol gan Crosby Stills and Nash. Fe gaeth ei recordio o yn ystod y sesiynau ar gyfer yr albym ‘Bitches Brew’, ond wnaeth y gân ddim ymddangos ar record tan ‘Circle in the Round’ sef casgliad o out-takes gaeth ei rhyddhau yn 1979.


Cal Tjader
- The Fakir

Cerddor a arosodd yn driw i’r arddull Afro-Cuban jazz trwy gydol ei yrfa, er fod ei wreiddiau deuluol o Sweden. “The most successful non-Latino Latin musician”.


Ravi Shankar - Fire Night

Y dyn a gyflwynodd sŵn India i weddill y byd. Cyn i George Harrison ymweld ag ef a dysgu sut i chwarae’r sitar, roedd cerddorion jazz blaengar yr UDA yn dangos enghreifftiau o’i ddylanwad yn eu cerddoriaeth.



Maynard Ferguson - Chala Nata

Cerddor jazz ac arweinydd band o Ganada, roedd Ferguson yn enwog am ei allu i chwarae nodau uchel.