Main content

Rhedeg i Paris - Hawliwch ein baner!

I gychwyn y daith i Ewro 2016, mae Radio Cymru am i'n gwrandawyr sgorio gôl dros Gymru!

Boed ar y cae, yn yr ardd neu'r swyddfa, byddwch mor greadigol â phosib a chael hwyl yn dangos eich cefnogaeth.

Mae sawl ffordd i yrru'ch fideo atom ni, gwnewch un o'r rhain:

• Postio ar Facebook gan ddefnyddio'r hashnod #rhedegiparis a tagio @bbcradiocymru

• Cyhoeddi fideo ar Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #rhedegiparis a tagio @bbcradiocymru

• Drwy ebost i [email protected] gan ddefnyddio gwasanaeth rhannu ffeiliau mawr (megis Dropbox neu WeTransfer)

Ar ôl cyhoeddi fideo, mae angen gyrru ebost i [email protected] gyda'ch enw llawn a chyfeiriad er mwyn i ni allu gyrru baner atoch chi.

Byddwn yn dosbarthu'r baneri drwy'r post hyd Mehefin y 4ydd neu hyd nes bydd pob baner wedi mynd!

Ewch amdani a dangoswch eich cefnogaeth!

Amodau:

  • Mae'n rhaid cyfrannu eich llun drwy e-bostio [email protected].
  • Fe fydd angen i riant neu warchodwr gysylltu ar ran unrhyw un sydd dan 18 oed. Drwy gyfrannu llun i'r ymgyrch rydych yn nodi eich bod yn cytuno gyda'r amodau defnydd ac hawlfraint isod.
  • Bydd y 200 llun cyfraniad cyntaf yn derbyn baner Draig Goch Radio Cymru. Er mwyn rhoi cyfle i gymaint â phosib i dderbyn baner, dim ond un baner gellir ei hawlio gan bob cyfeiriad cartref.
  • Byddwn yn dosbarthu baneri tan y 7fed o Fehefin, neu tan fydd ein nifer cyfyngedig o faneri i gyd wedi eu dosbarthu.
  • Mae’n rhaid tynnu pob llun gan gadw at ganllawiau cyfredol Covid-19.
  • Mae croeso i fwy nag un person ymddangos mewn llun.
  • Nid oes sicrwydd y bydd pob llun a gynigir yn cael ei defnyddio fel rhan o’r gwaith celf.

Defnydd ag hawlfraint

Trwy gyfrannu i'n wal goch rithiol rydych yn caniatáu i'r BBC gyhoeddi eich llun ar unrhyw blatfform perthnasol gan gynnwys cyfrifon cymdeithasol Radio Cymru a Cymru Fyw (Twitter, Instagram a Facebook).

Chi fydd eiddo hawlfraint eich cyfraniad. Nid yw'r caniatâd i'r BBC ei ddefnyddio yn ecsgliwsif, a cewch barhau i ddefnyddio'r cynnwys a chaniatáu i eraill ddefnyddio'r cynnwys.

Trwy gyfrannu rydych yn cadarnhau:

  • Fod caniatâd i'r BBC gyhoeddi'ch cyfraniad wedi ei sicrhau gan yr unigolion sy'n ymddangos yn y llun (gan gynnwys rhiant neu warchodwr unrhyw gyfrannydd sydd o dan 18).
  • Fod gennych hawl i gyhoeddi'r llun.
  • Fod gan y BBC yr hawl i olygu eich cynnwys am resymau golygyddol a gweithredol.
  • Fel arfer byddwn yn cyhoeddi eich enw a lleoliad gydag unrhyw gyfraniad, oni bai i chi nodi fel arall, ond am resymau gweithredol nid yw hyn wastad yn bosib.
  • Nid yw'r BBC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am niwed technegol i unrhyw offer (ffonau symudol, camerâu, cyfrifiaduron ayyb), na chwaith am unrhyw offer gaiff ei golli.

Gwarchod data/ preifatrwydd

Fel rhan o'r cyfraniad, mae'n bosib bydd y BBC yn gofyn am rai manylion personol. Bydd y defnydd o'r manylion hyn yn cydymffurfio ag amodau polisi'r BBC: http://www.bbc.co.uk/privacy/


Bydd y BBC yn cadw manylion personol yn ddiogel ag yn unol â deddfau Gwarchod Data.