Eog Sesame a Soi Nerys Howell
Rysait am Eog sesame a soi gyda gwyrddni’r gwanwyn gan y cogydd Nerys Howell ar raglen Bore Cothi
Mae'r rysait yn ddigon i weini dau

Eog Sesame a Soi Nerys Howell
Cynhwysion:
- 2 x 125g ffiled eog, gyda’r croen
- 2 lond llwy fwrdd saws soi
- llond llwy fwrdd mêl clir
- 2 lond llwy fwrdd sudd leim neu lemon
- llond llwy fwrdd hadau sesame
- llond llwy fwrdd coriander ffres wedi'i dorri i weini
Ar gyfer Gwyrddni’r Gwanwyn:
- llond llwy de o olew blodyn yr haul
- ½ winwnsyn, wedi’i dorri’n haenau
- 1 ewin garlleg wedi'i falu
- darn 4cm sinsir ffres, wedi'i blicio a'i gratio’n fân
- 6 o ddail bresych, wedi’u golchi a’u torri
- 50g bresych crych (cêl), wedi’i olchi
- 50g o ddail sbigoglys, wedi’u golchi
- 2 lwy fwrdd saws soi
- 1 llwy de olew sesame
Dull:
- Gwnewch y marinâd drwy gymysgu y saws soi, y mêl a'r sudd leim. Rhowch y darnau eog mewn dysgl a thywalltwch y marinâd drostynt, gan droi y pysgod nes eu bod wedi'u gorchuddio'n dda gan yr hylif.
- Gadewch i farinadu am o leiaf 20 munud yna trosglwyddwch i ddysgl dal gwres ac ysgeintiwch wyneb yr eog gyda'r hadau sesame.
- Rhowch mewn popty sydd wedi’i gynhesu i 180C/350F/nwy marc 4 a choginiwch am 10 munud.
- Ar gyfer y llysiau - cynheswch olew blodyn yr haul mewn wok mawr dros wres uchel, yna ychwanegwch y winwns, y garlleg a'r sinsir a'u troi am 1 funud.
- Ychwanegwch y bresych a’r bresych crych a chadw i droi'r gymysgedd am 2 funud. Yna ychwanegwch y sbigoglys gan adael iddynt wywo cyn ychwanegu’r saws soi a’r olew sesame.
- Gweinwch gyda'r eog a gwasgarwch y coriander ffres dros ei ben.