Talwrn Cerdd Dant
Porth (Karen Owen, Mari Lisa, Rhys Iorwerth, Huw Dylan Owen)
yn erbyn
Cawl (Mari George, Mair Tomos Ifans, Rhys Dafis ac Emyr Lewis)
Trydargerdd: Crynodeb bachog o ofynion cerdd dant
PORTH
Ceinciau a ffrogiau kinky – sy’n asio
seiniau neis ein cerddi
hen ffash â Laura Ashley,
taro ias 'rôl “un dau tri...”
8.5
CAWL
Dowch â gosodiad trawiadol a ffrog
llawn o ffrils tragwyddol,
dowch â beads, lawr hyd eich bol,
côr braf, yw côr arbrofol.
8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ffair’
PORTH
Ynof mae oes wahanol
olwyn ffair y galon ffôl.
9
CAWL
Awn rownd a rownd yn daer o hyd
ar hobi hôrs reid fffair y byd.
9
Limrig yn cynnwys y llinell “Mi es i Borthcawl ar fy ngwyliau
PORTH
Ceinciau a ffrogiau kinky – sy’n asio
seiniau neis ein cerddi
hen ffash â Laura Ashley,
taro ias 'rôl “un dau tri...”
8.5
CAWL
Mi es i Borthcawl ar fy ngwylia,
mi glywais fod Elvis yn byw na,
gwelais un, gwelais gant,
wrthi’n canu cerdd dant,
geiriau Hound Dog i alaw Cwm Rhondda.
8.5
Cywydd mawl neu ddychan i unrhyw dîm rygbi neu bel droed
PORTH
I'r tîm rygbi Modern
Wrth i horwths Arthuraidd
gyda phŵer cryfder craidd
rasio o bell at grash-bôl
ym mri’r godwm ergydiol,
wrth i hits y chwimeirth hyn
ar groen a chnawd ddirgrynu’n
ddiarbed, galed ar gae,
yn aggro, yn daflegrau,
mae ’na gêm a honno’n gof
gwahanol o deg ynof,
yn yr oes pan fedrai un
â sgil osgoi ei elyn
trwy fylchu, trwy gamu’n gynt,
neu hwylio’i ffordd trwy helynt
â gosgeiddig ysgwyddau.
Sgwaria hi, Gats: gwir ai gau?
9.5
CAWL
Cwmsgwt
Nid hawdd mewn cwm naw tyddyn
ydy hel tîm pymtheg dyn;
ond cewri i gyd, garw’u gwedd,
rhai o graig ydy’r gwragedd;
cryfion fel Samson, yn sur
a blin, nhw ydy’r blaenwyr!
Agor ffos eu hymosod,
arswydo oer sy’ i’w dod;
dwylo mawr dal meheryn,
yn gwybod lle i daclo dyn;
trechaf ym mhob ymrafel
a byth yn gollwng y bel!
Roedd ar ben ym mhen munud,
Sgarlets yn sgarlets i gyd;
a’r Gleision lawer glasach
ar y bws yn ara’ bach,
ac am osgoi maes y gad
Cwmsgwt, y cae am ‘sgytiad.
10
Triban beddargraff: Cantor neu Gantores Cerdd Dant
PORTH
Datganodd i beth wmbredd
o geinciau yn gynghanedd,
a dyma hi, yr eneth wen,
mewn cainc o bren yn gorwedd.
'Rôl colli hir amynedd
â’th ganu llawn brwdfrydedd
nawr â’th geinciau yma’n glyd
yr wyt yn fud o’r diwedd.
9
CAWL
Un da am ganu ydoedd,
Ai mlaen a mlaen am oesoedd ,
Mae ceg Un dau Un un dau dau
Nawr wedi cau byth bythoedd
A glywi ar yr awel
Sŵn alaw'r delyn ddirgel
Yn para, fel pe bai parhad
Yn fy ngosodiad tawel?
9.5
Cân i’w chanu i gyfeiliant unrhyw offeryn (heb fod dros 20 o linellau):
PORTH
i'w datgan ar y gainc Bardd yn ei Awen, 1122
Yr oedd 'na dri ohonom
mewn mynwent fach yn Llýn
pan ddaeth ei Saesneg atom
i holi'n pac, bob un.
Gwahoddodd ni i'r cymun,
croesawodd ni i'w lan,
ac esgyrn yr hen Benrhyn
dan gerrig ym mhob man.
Rhwng beddau'r Cymry yno
ni allai ddeall, wir,
pwy ddoi ar bererindod
i'r cilcyn hwn o dir.
A ninnau'n methu gofyn,
gan bwy y cafodd hwn
yr allwedd i Langwnnadl,
nes hawlio'r lle yn grwn?
10
CAWL
Mi ffoniais Scottish Power a galwad Gymraeg ydoedd hon,
Er ffonio naw o weithie, es trwodd i Warrington.
Mi ffoniais i i drefnu peirianydd o’r enw John,
Ond er imi ffonio’r lein Gymraeg, ces ddraig o Warrington.
Mi ffoniais 040 7018 - ond mae’r llinell yn andros o con –
Chlywch chi ddim gair o Gymraeg ar fy llw,’ mond Sgowsar o Warrington.
Deialais sawl gwaith eto a gwrando ar fiwsig reit llon,
Ond rol oriau, digon gwachul yw cerddoriaeth Warrington.
Mi ffoniais drosodd a throsodd, bum wrthi am wsnos bron,
Ond er trio a thrio a thrio, awn i nunlle heblaw Warrignton.
Mi ffoniais i eto echdoe a ches ateb gan dipyn o ddrong
Methodd a derbyn nad oeddwn am siarad â Sais o Warrington !
Mi ffoniais Meri Huws i gwyno a chael ateb yn Hong Kong
Gan ddyn bach ‘fo bat - a phêl, come to that - ond ‘do ni’m isio chwarae pin-pong!
A heddiw mi ffoniais Nwy Prydain a chael trydan gan ferch ‘renw Non -
Cewch stwffio Scottish Power a stwffio Warrington !
10
Ateb llinell ar y pryd - Liw nos ar yr esplaniâd
PORTH
Deg Elvis yn cael pisiad
Liw nos ar yr esplaniâd.
0.5
CAWL
Edrychais a ches drochiad
Liw nos ar yr esplaniâd
Telyneg: Enw neu Enwau
PORTH
Enwau
Fe wnaem ni eitha ffafr â ni ein hunain,
ac, yn wir, economi’r dwyrain,
petaem yn gwerthu Cymru’n well.
Does dim eisiau’r ffasiwn eiriau
fel cneifion a charnedd a chlogwyn a chrib
y dyddiau goleuedig hyn, ar fapiau.
Mae’n anodd darllen y rheini, meddai’r rhai,
a fu’n ymdrwyno ym Machu a Shanghai,
a chardod ydi’r rhaff sy’n cadw’r iaith
rhag syrthio dros y dibyn maith
i’r llynclyn diffwys.
Ond mae gan fugail y ffridd
ddaear a phridd yn ei waed;
mae llwybrau defaid y cenedlaethau
yn ei isymwybod, yn tywys ei draed,
ac mae wedi hen arfer
codi’i goler rhag y ddrycin
a chwerthin yn nannedd y gwynt.
10
CAWL
Enw
Mari Gruffydd yw fy enw priodasol
Dw i’n ei ddweud e eto
yn dawel
ond mae’r sillafau’n taro’r llawr
fel traed trwm.
Gwên oer, codi aeliau
a gwahoddiad i’w ddweud eto fyth
am fy mod
yn “Spelling it a funny way.”
Ac af i ddim i ddadle heddiw chwaith,
achos nhw sy’n iawn wrth gwrs
a fi sy’n ‘funny’
am fentro cymryd enw
sydd mod od i bawb.
A dyna pam dw i’n falch i fynd
cyn gwneud fy hunan yn fwy ‘fynny’ byth.
Mynd yn ôl i’r stryd
a sŵn fy nhraed yn gymysg a phob sŵn arall
yn y dre.
10
Englyn ar y pryd: Pabi Gwyn
PORTH
Erioed, pan dyf yr hedyn yn eiddil
O’r pridd , fe ddaw rhywun
O hyd I’w sathru wedyn
A’i droi yn waed, er yn wyn.
9.5
CAWL
Mae galar militariaeth-eto’n goch
Tynnu gwaed poeth hiraeth
Ond bob yn un defnyn daeth
Dy eira’n goffadwriaeth.
9.5
Cyfanswm
Porth - 74.5
Cawl - 75