Main content

Y Chwefror Chwerwaf

Yng ngolau’r gwanwyn cynnar
gwelaf ein tir yn frith o friwiau;
ôl traed cewri
fu yma
ddoe
yn cerdded.

Tri chawr,
tri chorun cyfuwch â’r sêr
heb fod â’u pennau
yn y cymylau.

Tri doeth,
yn tyrru uwch meidrolion
heb edrych i lawr eu trwynau.

Tri dewr
heb fod yn rhy wrol i wylio
na’n rhy rymus i wrando,
na’n rhy gefnsyth i wyro.

Bu un yn penlinio*
a chynnig ei ysgwydd
yn bont
i eraill ei dringo,
ac oddi yno
i glustfeinio’r pell yn agos
a’r agos yn nes.

Bu un yn crymu dros biano
a’i fysedd mor feiddgar â’i eiriau
yn ddawns gelfydd rhwng y du a’r gwyn.

Bu un ar ei gwrcwd
ym mwd** ein Cymreictod,
yn dadorchuddio’n gwreiddiau
a’u troi’n sylfeini ein hyfory.

A heddiw
mae tyllau yn Nhanygrisiau
a Thrawsfynydd,
yn Llwynypia a Phantycelyn
yn Nolydd a Chwmystwyth.

Gyd-feidrolion,
na faglwn iddynt;
rhyfeddwn atynt!
Torchwn ein llewys
a suddo’n dwylo i’r duwch.
Baeddwn,
boddwn ein bysedd
yng ngwaddol y gwagle.

Ac yno
yng ngolau’r gwanwyn cynnar
canfyddwn o’r newydd
nid twll
ond trysor.

* Delwedd a fenthycais gan Rocet Arwel Jones o’i deyrnged yng nghynhebrwng Merêd

** Delwedd a fenthycais gan Myrddin ap Dafydd, Golwg, Chwefror 19 2015, o ddyfyniad gan R.T. Jenkins.