Crymbyl riwbob Enlli Pugh
Crymbyl riwbob gyda crwst melys a chwstard melys (creme anglaise)

Crwst Melys
125g Menyn
50g Siwgwr Man
250g Blawd Plaen
1 Wy
1 Oren (zest wedi ei dorri'n fan)
Chwisgio'r menyn a'r siwgwr gyda'i gilydd nes yn llyfn.
Ychwanegu'r wy yn raddol a'i gymysgu.
Ychwangegu'r blawd gan ddefnyddio dwylo i ddod ar cyfan at ei gilydd.
Ei resdio yn yr oergell am 'chydig funudau cyn ei rowlio.
4/5 riwbob
3 llwy fwrdd o Siwgwr
Sudd a zest 1 Oren
Torri'r riwbob i ddarnau sgwar a'i potsio mewn sospan neu yn popdy gyda siwgwr a oren am 'chydig funudau nes yn feddal.
Crymbyl
110g Siwgwr Demerera Brown
180g Blawd Plaen
110g Menyn
Llond llaw o Hazelnut
Rhoi'r siwgwr, menyn, a'r blawd gyda'i gilydd mewn peiriant malu nes bod y cwbwl yn fan.
Yna, ychwanegu'r hazelnut.
Creme Anglaise
230ml Hufen Dwbwl
4 Melynwy
65g Siwgwr Man
2 Fanilla Pod
Berwi'r hufen a'r fanilla gyda'i gilydd.
Chwisgio'r melynwy a'r siwgwr yn dda. Yna ychwanegu'r hufen gyda'r wyau a'i cymusgu.
Rhoi'r cyfan yn ol i'r sospan er mwyn twchu'r cwstard.
Leinio tun wedi ei irio gyda'r crwst melys. Ei 'blind bakio' gyda 'greaseproof' a 'baking beans' am 20 munud yn pody ar wres o 180 C. Wedi hyn, tynnu'r 'greaseproof' a rhoi'r crwst yn ol yn y popdy am oddeutu 8 munud arall.
Rhoi'r crymbyl i goginio yn y popdy arwahan am oddeutu 15 munud i ddechrau crasu.
Llenwi'r crwst gyda'r riwbob.
Yna ychwanegu'r crymbyl a'r y top a'i goginio am oddeutu 10-15 munud yn y popdy ar wres o 180 C
Yna ei weini gyda'r cwstard melys.