Main content
Ap SIBRWD - Elwa mwy ar y cyngerdd

Hoffech chi gael ffeithiau diddorol, cipolwg sydyn y tu ôl i’r llenni, lluniau ac awgrymiadau gwerthfawr ynghylch pethau i edych allan amdanynt ar lwyfan y cyngerdd, i gyd yn cael eu danfon yn fyw i’ch ffôn clyfar neu ap yn ystod y cyngerdd? Mae ap Sibrwd wedi cael ei ddatblygu i ffrydio cynnwys ychwanegol i’ch dyfais, ac mae’n ffordd berffaith o wella profiad teuluoedd a phobl ifanc o’r cyngerdd.
Mae mor syml i’w ddefnyddio, a dyma sut i roi cychwyn arni:
- Llwythwch ap Sibrwd RHAD AC AM DDIM ar eich ffôn clyfar neu’ch cyfrifiadur tabled cyn mynd i leoliad y cyngerdd – mae ar gael ar IOS neu Android
- Pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad, rhowch eich ffôn ar ‘Airplane Mode’ ac yna rhoi ‘Wi-Fi’ ymlaen. Drwy wneud hyn, fyddwch chi ddim yn cael unrhyw alwadau ffôn i darfu ar eich mwynhad.
- Yna bydd angen i chi gysylltu â’n rhwydwaith Wi-Fi ar gyfer y perfformiad, sef Sibrwd
- Pan fyddwch wedi cysylltu â Wi-Fi Sibrwd byddwch yn barod i fynd! Ar sgrin y brif ddewislen, pwyswch y botwm perfformiad. Bydd y testun ar y sgrin yn dechrau’n awtomatig pan fydd y cyngerdd yn dechrau
- A chofiwch roi gwybod i ni beth rydych yn ei feddwl ohono wedyn, naill ai drwy ddefnyddio’r adborth yn yr ap, neu anfon neges e-bost at [email protected]
Bydd yr holl wybodaeth hon hefyd ar gael ar y diwrnod, ynghyd ag aelodau o dîm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a all eich helpu i roi cychwyn arni.
