Main content

Ar y We, Be?

Mae'r rhaglen hon yn son am ddibyniaeth chwarae gemau cyfrifiadurol

Hyd: 11:53

Mae'r grŵp i gyd yn y llyfrgell yn ymchwilio i'w gwaith cartref ar yr Aifft Hynafol, pan mae Gabriel (13) yn darganfod ei fod wedi ennill chwe thocyn i rowndiau terfynol y bencampwriaeth bêl-fasged genedlaethol. Ar yr un pryd, mae Tony (13) yn dod ar draws gêm saethu mymïod ar y we.

Cyn hir, mae'r gêm anaddas yn ei fachu ac mae'n gaeth; mae hyd yn oed yn esgus bod yn sâl er mwyn cael aros adref i chwarae'r gêm yn ddi-dor. All y ffrindiau ddim credu y byddai Tony yn treulio'i holl amser yn ei 'stafell yn chwarae gemau cyfrifiadur, felly maen nhw'n anfon Akira (12) i gael gair gydag ef. Er mawr siom iddyn nhw, mae'r gêm fideo yn bachu Akira hefyd.

Aiff y sefyllfa mor wael, nes i Akira a Tony anghofio'r amser a methu'r gêm bêl-fasged. Yn y cyfamser, mae Gabriel, Monica (11), Lara (12) a Llion (13) yn cael amser gwych yn y bencampwriaeth. Mae Gabriel hyd yn oed yn ennill cyfle i gwrdd â'i arwr pêl-fasged. A hwythau'n siomedig na ddaeth eu ffrindiau i'r gêm bêl-fasged, mae'r grŵp yn dangos i Akira a Tony beth maen nhw wedi'i golli. Gan deimlo'n ddigalon, mae'r ddau'n sylweddoli pa mor gaeth oedden nhw i'r cyfrifiadur ac yn addo defnyddio eu hamser mewn ffordd fwy adeiladol o hyn ymlaen.

Pwnc: ABCh

Testun: Perthnasau: Cyfeillgarwch

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio'r stori hon i drafod cyfeillgarwch a sut i'w reoli'n briodol, ond gellir ei defnyddio hefyd i drafod ymddygiad caethiwus a'r ymddygiadau sy'n deillio o gaethiwed. Hefyd, gellir trafod sut i reoli amser yn briodol a chadw cydbwysedd rhwng adloniant a gwaith ysgol neu ymrwymiadau eraill. Gellir trafod bod y ffaith fod mwy a mwy o dechnolegau ac adloniant ar gael o hyd yn gwneud cadw cydbwysedd yn fwy o sialens.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• defnyddio TGCh mewn modd diogel gyda chymorth ac arweiniad.

a deall:

• y nodweddion a manteision corfforol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â ffordd iach o fyw

• y manteision o gael ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• sefyllfaoedd sy’n esgor ar wrthdaro

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• rheoli amser a bodloni terfynau amser

• defnyddio TGCh mewn modd diogel a chyfrifol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 (11-14 oed) ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.