Rysait cyri Thai gwyrdd Llyr Griffiths Davies
Digon i 3 person llwglyd (neu 4 os nad ydych yn fwytawyr mawr).

Cynhwysion
4-6 tshili gwyrdd o faint canolig, wedi eu torri (heb yr hadau, heblaw’ch bod yn teimlo’n fentrus!)
Darn 2 fodfedd o sinsir ffres, wedi ei dorri
2 ewin garlleg, wedi eu malu
Dyrnaid o ddail brwysgedllys (coriander) ffres
2 goes o lemonwellt (lemongrass), wedi eu torri’n ddarnau
1 leim – darnau mân o’r croen, a’r sudd
1 llwy fwrdd o hadau coriander, wedi eu malu
1 llwy de o lysiau’r ehedydd (cwmin), wedi eu malu
1 llwy de o grawn pupur du, wedi eu malu
[gallwch falu’r rhain gyda’i gilydd â llaw neu brosesydd bwyd]
3 llwy fwrdd o olew olewydd
8 deilen leim Caffir, wedi eu rhwygo’n ddarnau (neu os gallwch ddefnyddio croen leim arall wedi’i gratio yn lle’r dail)
Tun o laeth coconut
1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
Gallwch ychwanegu unrhyw lysiau gwyrdd i’r cyri – megis brocoli, pys sugarsnap, corbwmpen (courgette) ac ati.
Cig (darnau o ffowlyn neu dwrci) neu gorgimychiaid mawr (er gallwch ei weini fel saig llysieuol)
Ychydig o olew er mwyn ffrio’r cig/corgimychiaid (gallwch ddefnyddio olew olewydd ysgafn neu olew cneuen goco/coconut)
Reis Thai neu flodfresych i fynd gyda’r cyri
Dull
1 – Cymysgwch y cynhwysion sych (yr hadau coriander, y cwmin, a’r grawn pupur du) gyda’i gilydd. Ychwanegwch y tshillis, y sinsir, y dail coriander ffres, y lemonwellt,a’r dail leim Caffir a malu’r cyfan, gan ychwanegu’r olew olewydd, croen a sudd y leim.
2 - Unwaith mae’r gymysgedd wedi ei falu’n bâst mae’n barod i’w ddefnyddio.
3 - Berwch sosbanaid o ddŵr ar gyfer y reis neu’r blodfresych, a rhowch nhw i goginio
4 - Rhowch ychydig o olew mewn padell ffrio, a ffriwch y winwnsyn. Ychwanegwch y cig.
5- Pan fo’r cig yn barod, gallwch ychwanegu unrhyw lysiau.
6 - Ychwanegwch y pâst a’i chymysgu’r cyfan yn dda, cyn ychwanegu’r tun o laeth coconyt. Gadewch i’r cyfan ffrwtian, a lleihau os oes angen.
7 - Os ydych yn defnyddio blodfresych yn lle reis, pan fydd wedi ei goginio, malwch ef gan ddefnyddio teclyn malu tatws.
8 - Gweinwch gydag ychydig o ddail coriander a darn o tshilli coch ar ben y cyri.