Main content

Gwyneth Glyn - Chwefror?!

Nid cerdd sydd gen i i’w datgan

Ond cŵyn i’r BBC

O holl fisoedd difyr y flwyddyn,

Pam rhoi'r un diflasaf i mi?

Mae Ionawr yn egin newydd.

Mae Mawrth yn flagur i gyd.

Mae Ebrill a Mai’n llond eu blodau,

Ond ‘di Chwefror mond chwyn i gyd.

Ym Mehefin mae’r wlad ar ei gorau.

Mae Gorffennaf yn gynnes a thlŵs

Mae Awst yn fis Sdeddfod a gwyliau,

Ond ‘di Chwefror mond draft o dan drws.

Mae Medi yn fis cynhaeaf.

Yn yr Hydref mae’r deiliach ar dân.

Mae Tachwedd yn goelcerth serog

a Rhagfyr yn wledd ac yn gân…

Ond Chwefor?! Be dduda I amdano?

Mis tywyll a rhynllyd a llwm.

Mis tlawd a di-liw a di-lewyrch.

Mis hyll ac anhraethol o drwm.

Hen fis bach digalon a diflas.

Hen fis bach blêr a blîn.

Mis anodd, mis annwyd, mis randym.

Hen fis bach diserch a chrîn.

“Mai’n Valentines!” Mam yn porthi.

Ond mae dydd Sanates Dwynwen ‘di bod.

“Be am y Chwe Gwlad?” ydi cynnig fy nhad.

Ond go brin y cawn ni ganu clod.

Oes gan Chwefror unrhyw rinweddau?

Dim ond un, os y cyfrwch chi,

Sef mai dyma fis byrra’r flwyddyn

(a diolch byth , dduda i!)