Cyngerdd Hamddenol gyda Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Beth yw Cyngerdd Anffurfiol?
Mae’n brofiad o berfformiad byw sy’n arbennig o addas i blant ac oedolion sydd ag awtistiaeth, nam ar y synhwyrau, nam cyfathrebu ac anableddau dysgu, yn ogystal ag unigolion sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall ac yn rhannol ddall.
Ar gyfer pwy?
Mae’r awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar yn golygu ei fod yn addas i bawb!
Beth yw fformat y cyngerdd?
Caiff y cyngerdd ei gyflwyno’n Saesneg gan ein harweinydd Grant Llewellyn, a’r cerddor Andy Pidcock, mewn modd hwyliog a rhyngweithiol. Bydd y Gerddorfa yn chwarae cerddoriaeth a chlasuron poblogaidd y byddwch chi’n eu hadnabod o’r ffilm a'r teledu, fel ‘Happy’ o Despicable Me 2; thema Doctor Who a cherddoriaeth gan Rossini a Rimsky-Korsakov. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am drefn y gerddoriaeth yn y cyngerdd.
Pa addasiadau a gaiff eu gwneud?
- Agwedd anffurfiol at symud a sŵn yn yr awditoriwm - cewch symud o amgylch, canu, dawnsio neu eistedd a gwylio.
- Mannau i ‘ymlacio’ ar gael y tu allan i’r awditoriwm.
- Systemau cyfathrebu â lluniau yn cael eu taflunio ar sgriniau mawr.
- Pobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
- Disgrifiad sain.
Pa mor hir yw’r cyngerdd?
Bydd y cyngerdd yn para tua 1 awr - does dim egwyl.
Pa gerddoriaeth fydd yn cael ei chwarae?
- Pidcock, arr. Glyn - Hello
- Rossini - William Tell: Overture
- School performance featuring pupils from Ty Coch School
- Tchaikovsky - The Nutcracker: Dance of the Sugar Plum Fairy
- Strauss - Blue Danube (abridged)
- Pidcock,arr. Glyn - Andy's Waltz
- Brahms - Hungarian Dance, No.6
- Pharrell Williams - Despicable Me 2: Happy
- Pidcock, arr. Glyn - AEIOU and La, La, La
- Grainer, arr. Gold - Doctor Who Main Theme
- Pidcock, arr. Glyn - Thank you very much
- Quincy Jones, arr. Dennis Burton - Soul Bossanova
Pa adnoddau sydd ar gael cyn y perfformiad?
Bydd pobl sydd wedi prynu tocynnau yn cael y canlynol drwy'r post cyn y cyngerdd:
- Stori Weledol
- Pecyn Gwybodaeth i Rieni
Beth yw pris y tocynnau?
Mae’r tocynnau llawn yn costio £14, ond gallwch ddod â’r teulu cyfan am gyn lleied â £15.
- Tocynnau Teulu: o £15*
- Tocynnau Myfyrwyr a phobl ifanc: £5
- Dros 65 oed: 10% i ffwrdd
- Cydymaith Hynt: tocyn am ddim
- Defnyddwyr cadeiriau olwyn a’u cymdeithion: £10 yr un
*Mae Tocyn Teulu ar gyfer 2 oedolyn ac 1-4 plentyn yn costio £20 yn unig, mae Tocyn Teulu ar gyfer 1 oedolyn ac 1-2 o blant yn costio £15 yn unig.
Sut ydw i’n archebu tocynnau?
Yn bersonol:
- Ewch i Swyddfa Tocynnau Neuadd Dewi Sant ar y llawr gwaelod (Neuadd Dewi Sant, yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH).
Dros y ffôn:
- Archebwch yn uniongyrchol gan y Gerddorfa drwy ffonio ein Llinell Cynulleidfaoedd arbennig ar 0800 052 1812 (Llun-Gwen).
- Archebwch drwy Neuadd Dewi Sant ar 02920 878 444 - sylwch fod Neuadd Dewi Sant yn codi £1 yr archeb os byddwch yn dewis cael eich tocynnau yn y post.
Ar-lein:
- Archebwch drwy Neuadd Dewi Sant - stdavidshallcardiff.co.uk - sylwch fod Neuadd Dewi Sant yn codi £1 yr archeb os byddwch yn dewis cael eich tocynnau yn y post.
Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Next Generation Text Service':
- Defnyddiwch y gwasanaeth 'Next Generation Text Service' ar eich ffôn clyfar, dyfais tabled, cyfrifiadur neu ffôn - ewch i’r gwefan neu anfonwch e-bost atom yn now@bbc.co.uk i gael mwy o wybodaeth.
Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael mwy o wybodaeth?
- Ffoniwch y Llinell Cynulleidfaoedd ar 0800 052 1812.
- Ffoniwch Neuadd Dewi Sant ar 02920 878 444
- E-bostiwch now@bbc.co.uk
- Ewch i Swyddfa Tocynnau Neuadd Dewi Sant ar y llawr gwaelod (Neuadd Dewi Sant, yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH).
- Anfonwch Neges ar Facebook: facebook.com/bbcnationalorchestraofwales
- Trydarwch ni @bbcnow
- Ysgrifennwch at y Llinell Cynulleidfaoedd, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, CF10 5AL
Cysylltiadau Defnyddiol
Cysylltiadau Defnyddiol
![]()
Tudalen y Digwyddiad
Trowch i dudalen y digwyddiad ar ein gwefan
![]()
Archebu Ar-Lein
Pris tocyn yw £14, ond gallwch ddod a'r teulu cyfan am gyn lleied â £15!
![]()
Story Weledol
Darllen y PDF neu gofynnwch am gopi: now@bbc.co.uk / 0800 052 1812



