Ymwelwyr Blewog
Mae'r rhaglen hon yn son am ddelwedd corff, pwysau gan gyfoedion a’r baich y mae pobl ifanc yn ei deimlo oherwydd portreadau afrealistig ar deledu, mewn ffilmiau a chyfryngau eraill.

Hyd: 11:53
Mae hi’n noson cyn i’r ffrindiau fynd ar daith gerdded i'r fforest gyda gweddill y dosbarth, ac mae Lara (12) yn brolio am ei dillad newydd hyfryd. Mae’r bechgyn yn cwestiynu pam mae hyn yn bwysig ac mae Akira (12) yn cytuno - cerdded maen nhw, nid cymryd rhan mewn sioe ffasiynau! Mae Monica (11) yn cefnogi Lara; wedi’r cyfan, does dim byd o’i le ar edrych dy orau.
Drannoeth, mae Lara yn cyrraedd yn barod i fynd i gerdded, ond mae hi wedi cuddio ei chorff o'i chorun i'w thraed. Mae pawb wedi synnu; ai dyma’r dillad newydd hyfryd? Mae’r tywydd yn chwilboeth - fydd hi ddim yn boeth? O’r diwedd, mae Lara yn tynnu ei thop llewys hir oddi amdani ac yn dangos i Monica ac Akira fod ganddi flew o dan ei cheseiliau ac ar ei choesau. Mae ganddi gymaint o gywilydd, ond dweda Akira fod ganddi hithau flew yn yr un lle hefyd, ac nad ydy hynny’n rhywbeth i boeni amdano.
Mae Lara’n gweld Tony (13) yn pwyntio ati ac mae hi’n meddwl ei fod wedi gweld ei cheseiliau blewog ac wedi dweud wrth weddill y bechgyn. Mae hi'n mynnu ei bod am gael gwared ar y blew, ac felly mae ei ffrindiau’n ei helpu i wneud hynny. Pan fydd Lara’n sôn am y peth wrth Tony, sylweddola nad oedd hyd yn oed wedi gweld y blew; ar fin canmol ei dillad newydd oedd Tony!
Pwnc: ABCh
Testun: Hunan-ddelwedd
Syniadau ar gyfer y dosbarth
Gellir defnyddio’r stori hon i sbarduno trafodaeth am ddelwedd corff, pwysau gan gyfoedion a’r baich y mae pobl ifanc yn ei deimlo oherwydd portreadau afrealistig ar deledu, mewn ffilmiau a chyfryngau eraill. Gallai hefyd sbarduno trafodaeth am gael gwared ar flew, gan gynnwys rhesymau crefyddol a moesol yn y drafodaeth, er mwyn rhoi ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau.
Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy’r bennod yn addas.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• teimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ymwrthod â phwysau ac ymddygiad diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• gofyn am gymorth a chyngor personol
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sut mae gwerthoedd diwylliannol a chredoau crefyddol yn llywio’r ffordd y mae pobl yn byw
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol.
Blwyddyn 5
Gwrando
• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6
Gwrando
• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddangos agwedd gyfrifol at gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach
• datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• bod yn bendant ac ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
