Partneriaethau gyda BBC NOW
Mae BBC NOW yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau er mwyn darparu amrediad eang o waith, ond mae'n mwynhau partneriaethau ffurfiol gyda'r sefydliadau hyn yn benodol.
![]()
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru. Mae’n cyfrannu i hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd a Chymru, ac mae’n denu rhai o’r myfyrwyr mwyaf talentog o ar draws y byd.
![]()
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Sefydlwyd CCIC yn 2017 er mwyn uno ac arwain datblygiad chwech ensemble ieuenctid hirsefydlog a mawr eu bri Cymru sef Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
![]()
Tŷ Cerdd
Bwriad Tŷ Cerdd yw sicrhau bod cerddoriaeth o Gymru yn cyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y genedl a ledled y byd. Maent yn frwd dros gyfansoddiadau newydd ac yn cefnogi pobl broffesiynol, amatur, perfformwyr a chynulleidfaoedd i berfformio, cyfansoddi a phrofi cerddoriaeth Gymreig.
![]()
Creu Cerddoriaeth, Newid Bywydau
Sefydlwyd CCNB yn 2009 gan ficer Trelai, Parch Jan Gould – cyn gerddor proffesiynol – gyda’r bwriad o drawsnewid bywydau plant yn ardaloedd Trelai a Chaerau trwy eu dysgu sut i ganu offeryn cerddorfaol. Lleolir yr elusen yn Eglwys yr Atgyfodiad, Trelai.








