Rheolau'r Tŷ
mae'r rhaglen hon yn son am waith tim a meddyginiaeth
Hyd: 11:53

Ar ôl bod yn ymarfer ar gyfer drama'r ysgol, mae Monica (11) yn datgelu bod ganddi froetsh lwcus, mae gan Lara (12) ddarn o arian lwcus ac mae Tony (13) yn datgelu i bawb mewn neges destun fod gan Gabriel (13) bâr o drôns lwcus! Mae Gabriel yn ddig ond, drwy garedigrwydd, dydy e ddim yn datgelu fod gan Tony dedi! Mae'r teulu mae Monica yn aros gyda nhw ym Mhatagonia yn mynd i ffwrdd am y penwythnos, ond gan na chaiff hi fethu drama'r ysgol, mae'n rhaid iddi aros dros nos gydag un o'i ffrindiau.
Mae Akira (12) yn cynnig lle iddi, ond mae hi'n dysgu bod gwahodd Monica draw yn gwahodd helynt. Dydy Monica ddim fel petai'n deall ffiniau a phan mae hi'n cael ei gwthio i'r pen gan ymateb oriog Akira, mae Monica'n mynd cyn belled â darllen ei dyddiadur hi.
Mae Lara wedi cyrraedd pen ei thennyn. Mae Akira a Monica yn beio ei gilydd ac yna'n troi ar Lara am gymryd ochrau wrth iddi geisio eu hannog i gyfaddawdu. Ar ben hynny, mae'r tensiwn rhwng Gabriel a Tony yn parhau. Mae Lara'n cael ei gorfodi i fod yn onest â'i ffrindiau am eu ffraeo a'u camymddwyn. Mae'n rhaid i Tony hefyd wneud rhywfaint o ymddiheuro.
Pwnc: ABCh
Testun: Perthnasau: Gwaith Tîm a Meddyginiaeth
Syniadau ar gyfer y dosbarth
Gellir defnyddio'r stori hon i drafod cyfeillgarwch, rhannu a chyfaddawdu. Mae'n hynod o ddefnyddiol wrth edrych ar sut i reoli cyfeillgarwch, a ffiniau cyfeillgarwch. Mae ail ran y stori'n ddefnyddiol i sbarduno trafodaeth am rannu delweddau gyda dyfeisiau digidol (ffonau symudol, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol etc), parch, preifatrwydd a diogelwch ar y we.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro a delio â bwlio
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• defnyddio TGCh mewn modd diogel
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi
• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sefyllfaoedd sy’n esgor ar wrthdaro a natur bwlio
• bod pobl yn wahanol i’w gilydd o safbwynt eu barn am yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 5
Gwrando
• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6
Gwrando
• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
• defnyddio TGCh mewn modd diogel a chyfrifol
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
