Main content

Cyfansoddi: Cymru 2026

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, cael ei pherfformio a’i recordio gan BBC NOW yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd.

Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o'r radd flaenaf! Eleni, bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Arweinydd Jac van Steen, a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins.

Mae’r prosiect blynyddol hwn a’r cyngerdd sy’n uchafbwynt iddo, yn cael ei redeg ar y cyd â Nimbus Lyrita Arts, Tŷ Cerdd, Chyfansoddwyr Cymru, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru.

Dyddiadau

Diwrnodau Gweithdy: Dydd Mercher 11 & 12 Chwefror 2026

Ymarferion a Chyngerdd: Dydd Gwener 13 Chwefror 2026

Mae’n bleser cyhoeddi bod y cyfansoddwyr canlynol wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Cyfansoddi: Cymru 2026.

EnwTeitl y Cyfansoddiad
Elaina SophieErratic
Elliot WighamFirenze
Sebastian BootI
Harry GodfreyMicrocosmos
Martin EvansSeeing the Light
Thomas HooperThe Flame
Benjamin LawtonThe Wreck of Helvetia
Harry James WoodmanUntil I found you