Main content

Risoto Cig Oen Elwen Roberts.

Bydd angen

• 225g (8oz) stecs coes Cig Oen Cymru, wedi eu torri'n giwbiau bach

• 5ml (1llwy de) olew olewydd

• 1 winwnsyn, wedi ei dorri'n fan

• 150g (5oz) reis risotto (Arborio)

• 600ml (1pt) isgell

• Pupur du

• 50g (2oz) pys sugar snap

• 50g (2oz) pys rhew

• Dail berwr

• Caws Parmesan neu/ a caws cryf Cymreig fel chedar

Dull

1. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban a choginiwch yr winwns a'r ciwbiau cig oen coch.

2. Ychwanegwch y reis risotto a throwch yn dda.

3. Ychwanegwch yr isgell, a dewch a'r cyfan i'r berw, ychwanegwch halen a phupur a'i fudferwi am tua 30 munud neu nes bod y reis wedi coginio a'r hylif i gyd wedi ei amsugno. (Gallwch ychwanegu ychydig mwy o isgell i gael y trwch y dymunwch).

4. Yn ystod 5 munud ola'r amser coginio, ychwanegwch y pys sugar snap a'r pys rhew, cymysgwch gyda'i gilydd a choginio nes bod y sugar snaps yn dechrau meddalu.

5. Rhowch fwy o bupur du a gweinwch gyda dyrnaid o ferwr a chaws wedi gratio.