Trydar Bardd Gorffennaf 2017 - Dr Siôn Aled Owen
Dr Siôn Aled Owen yw bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Gorffennaf 2017 ac mae wedi bod yn trydar bob dydd yn ystod y Mis - #BarddRC
A minnau'n fardd preswyl am y mis @BBCRadioCymru mi fydda i'n ceisio trydar darn bach o farddoniaeth bob dydd #BarddRC
5:19 PM - 1 Gorff 2017
Am fis cewch flasu awen / Siôn Aled (weithiau - Owen) / a'i drydar cryno, dyna'r ddeddf, / ar bynciau lleddf a llawen. #BarddRC
5:27 PM - 1 Gorff 2017
Tony Bianchi: Glasfedd yr Hen Ogledd wnaeth / yn waddol i'n llenyddiaeth #BarddRC @BBCRadioCymru
10:21 PM - 2 Gorff 2017
Brys, brys, drwy strydoedd llawn, gwaith yn bora, adra pnawn, blaw am rai heb frys 'ny byd sy â'u hadra ar y stryd @BBCRadioCymru #BarddRC
6:53 PM - 3 Gorff 2017
Gorffennaf y 4ydd - rhyw ddathlu, siwr o fod?
A minna'n cyfri cerddi - ma 27 i ddod ... #BarddRC@BBCRadioCymru
8:52 PM - 4 Gorff 2017
Maddeuaf ichi, wybed, am bob loes
os dio’n help i wneud eich tridiau bara oes #BarddRC@BBCRadioCymru
9:10 AM - 5 Gorff 2017
Tydy llinellau cyfochrog byth yn cyfarfod.
Dyna pam dwi dragwyddol ar drên. #BarddRC@BBCRadioCymru
3:05 PM - 6 Gorff 2017
Paham, mewn cread mor ddw-lal, / yn nhrefn anwadal amser, / fod blas y coffi'n unrhyw le / yn well ar fore Gwener? #BarddRC@BBCRadioCymru
7:41 AM - 7 Gorff 2017
Bradley / A geir yr un colli garwach - a geir ar gariad brawf bryntach? A geir un rhodd anoddach, rhodd mwy drud, na bywyd bach? #BarddRC
5:37 PM - 8 Gorff 2017
Mae gen i dasg, i'w gwneud ar frys. Ai heddiw, wir, yw Sul y Pys? #BarddRC @BBCRadioCymru
9:51 AM - 9 Gorff 2017
Mae bore Llun yn ddiflas
wrth fynd i'r gwaith yn ôl,
ond tipyn gwaeth na hynny
i'r sawl sy ar y dôl. #BarddRC @BBCRadioCymru
8:29 AM - 10 Gorff 2017
Peth gwych fai mil o filoedd
yn medru Iaith y Nefoedd;
gwell hanner hynny, i'w pharhad,
'nei siarad ar ein strydoedd. #BarddRC
2:34 PM - 11 Gorff 2017
Mi ddysgais reolau cynghanedd
a chyfri sillafau yn chwim,
ond llawer mwy caeth gorfod cyfri
pob nod a phob bwlch, pob un dim! #BarddRC
10:15 AM - 12 Gorff 2017
HG
I'w raglen, yn fachgennyn - dihunwn, / i diwn 'Helo' Gwynfryn; /yntau, er mod innau'n hŷn, / 'runwedd - heb altro gronyn! #BarddRC
7:12 PM - 13 Gorff 2017
Ym Mosul, ar anwaredd
Daesh fe ddaeth y diwedd:
ond nac anghofier fyth mai tâl
pob dial yw dialedd. #BarddRC @BBCRadioCymru
11:59 AM - 14 Gorff 2017
Glaw Ddygwyl Gewydd, deugain mwy -
dim ond hen chwedl plant:
gan fod ein hinsawdd bellach
yn nwylo Trump, nid sant. #BarddRC @BBCRadioCymru
9:28 AM - 15 Gorff 2017
Ar ei hanner
Addewais greu (o fenter ffydd!)
bob dydd ryw bwt prydydyddol:
wn im amdanoch chi, ond mae
i minnau’n dasg ddymunol! #BarddRC
12:31 PM - 16 Gorff 2017
Elwyn
Lle heno’r Tylluanod? – Lle heno
y bas llawn, diwaelod?
Nid aiff, na’r llais yn diffod,
o Lanbêr, o fêr ei fod. #BarddRC
2:00 PM - 17 Gorff 2017
Mae ‘teimlad’ i ddydd Gwener,
dydd Sadwrn a'r Sul yn wir,
Dydd Mawrth sy'n jest diwrnod dim byd
weithiau’n rhy fyr, neu’n rhy hir. #BarddRC
11:13 AM - 18 Gorff 2017
Morgrug
Bodau bach
sy bob hyn a hyn
yn tyfu adenydd
a mentro chwilio
am sail i fyd newydd. #BarddRC @BBCRadioCymru
12:14 PM - 19 Gorff 2017
Mae trafod enwau lleoedd
bob amser i mi’n wledd,
a’r mwya’i hud ohonynt oll
i mi, yw Llannerch-y-medd. #BarddRC @BBCRadioCymru
8:45 AM - 20 Gorff 2017
Mae enw mis Gorffennaf
yn benbleth, pan fo’n braf -
ond heddiw, dan lach y ddrycin,
mae wir fel Gorffen Haf! #BarddRC @BBCRadioCymru
9:17 AM - 21 Gorff 2017
Gweinio'r cledd â bloedd heddwch - dathlu cerdd,
dathlu celf a harddwch,
a ledio gwâr wladgarwch.
Gynnau dry'n holl eiriau'n llwch. #BarddRC
2:22 PM - 22 Gorff 2017
Soniais heddiw am brofiad creu cerdd.
Felly dyma gerdd am y trafod hwnnw.
A fory ella am brofiad trafod profiad trafod profiad... #BarddRC
5:55 PM - 23 Gorff 2017
Mary Anning
She sells sea shells on the sea shore.
Rhyw chwara coffadwriaeth
i ddynas feiddiodd wyddoni. #BarddRC @BBCRadioCymru
2:26 PM - 24 Gorff 2017
Paham mae'r siwpar-gliw ma
i drwsio'n dda i ddim,
ond eto, rhwng fy mys a 'mawd
yn setio’n ddigon chwim? #BarddRC @BBCRadioCymru
4:52 PM - 25 Gorff 2017
Fy Neilan Cerbyd heb rechu carbon - a'i thrydan / yn lân. Ein holwynion / mhobman ddilynan run lôn / un dydd os call gwleidyddion. #BarddRc
7:15 PM - Gorff 26, 2017
Rhowch ennyd i'm hanner cofleidio
a cherdyn (wel hanner) llawn clod
dros hanner gwydriad o bybli:
mae fy hanner pen-blwydd wedi dod! #BarddRC
8:57 AM - Gorff 27, 2017
Charlie
Sawl dydd, fe welais stori
fu'n swmbwl i farddoni,
ond ni ddaw'r hanes hwn i ben
heb wneud i'r awen rewi. #BarddRC @BBCRadioCymru
1:47 PM - Gorff 28, 2017
Peth braf troi bardd cymedrol
dros dro yn broffesiynol,
a difyr fai cymharu'r nawdd
â nawdd yr Oesoedd Canol! #BarddRC @BBCRadioCymru
1:48 PM - Gorff 29, 2017
Fedra i ddim
meddwl sut oedd hi
i rai y fel y mab ‘cw
y noson cyn y push.
Dim ond cysgu'n wael
ag ysbrydion fory'n fy nhrwblo. #BarddRC
7:04 PM - Gorff 30, 2017
Mi gawsoch bwt o'm hawen
bob dydd, y lleddf a'r llawen:
A Bardd y Mis, i mi'n fis braf,
Gorffennaf wedi gorffen.#BarddRC @BBCRadioCymru
4:50 PM - Gorff 31, 2017