Main content

Cynllun tocynnau am ddim i ysgolion

Hoffech chi gael tocynnau am ddim i holl gyngherddau BBC NOW drwy gydol y flwyddyn ar gyfer eich myfyrwyr? Dewiswch y cyngherddau yr hoffech fynd iddynt gyda’ch myfyrwyr ac archebwch eich lle ym mhob swyddfa docynnau dros y ffôn neu wyneb yn wyneb gan ddyfynnu NOWEDU.

Caiff pob ysgol archebu tocynnau ar gyfer uchafswm o 30 o fyfyrwyr ym mhob cyngerdd. Mae’r cynnig hwn hefyd ar gael i fyfyrwyr mewn lleoliad dysgu gartref. Caiff dim mwy nag 1 athro/gwarcheidwad ddod am ddim fesul 10-12 o fyfyrwyr. Sylwch mai dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu faterion archebu, cysylltwch â [email protected]


Dewch i weld pa gyngherddau mae BBC NOW yn eu perfformio’r tymor yma:
https://www.bbc.co.uk/bbcnow

URL Cylchlythyr

https://forms.office.com/r/R0U6bQjzue