Main content

Sbotiau – Ych!

Mae'r rhaglen hon yn son am fynd ar ddet a sbotiau

Mae Llion (13), bachgen o ysgol Lara, yn gofyn iddi hi fynd am dro ar y beic gyda fe. Mae Lara a’i ffrindiau wedi gwirioni; ond pan ddaw’r diwrnod mawr, mae Lara (12) yn gwrthod mynd am fod ganddi bloryn enfawr ar ei hwyneb! Mae Monica (11) ac Akira (12) yn gwneud eu gorau i’w helpu hi - o golur i'w guddio i feddyginiaethau ar gyfer plorod - ond does dim byd yn gweithio ac mae Lara’n gwrthod gadael y tŷ.

Mae Tony (13) yn mynd i banig pan mae’n clywed am ‘ddêt’ Lara, gan boeni y bydd y merched yn eu grŵp yn anghofio amdano fe a Gabriel (13). Mae’n trefnu ‘dêt’ dwbl iddo fe a Gabriel gyda merched newydd. Maen nhw’n mynd i loncian gyda’r merched, ond maen nhw’n cael trafferth dal i fyny, heb sôn am ddod i’w hadnabod nhw!

Diolch byth, mae Akira a Monica yn cyrraedd ac yn sicrhau Tony na fydd ei ffrindiau'n ei adael ar ôl. Funudau cyn i Lara ohirio’r daith feicio, mae hi’n sylwi bod gan Llion hefyd bloryn mawr ar ei wyneb. Mae hyn yn rhoi plwc sydyn o hyder iddi ac mae hi’n mynd ar ei beic gyda Llion.

Pwnc: ABCh

Testun: Cadw’n Iach

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio’r stori hon i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â hylendid personol, ond gellir hefyd ei defnyddio i drafod hyder a hunan-barch. Pwnc arall a allai fod yn destun trafodaeth ydy’r cwestiwn ‘Pryd ydy’r adeg iawn i ddechrau canlyn?’

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill

• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu'n bwrpasol at y drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaethau grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.