Main content

Pigo ar fy Ffrind = Pigo Arna i

Mae'r rhaglen hon yn son am berthnasau un-rhyw

Hyd: 11:53

Yn y parc sgrialu, mae Akira (12) yn cyflwyno Lara (12) a Monica (11) i'w ffrind Jacquie (13). Yn fuan iawn, mae Jacquie yn synnu'r criw gyda'i sgiliau sgrialu rhyfeddol. Wedi'i hysbrydoli gan ei sgiliau hyderus, gofynna Lara i Jacquie ei helpu i ddysgu rhai o'r triciau. Wrth i Lara ddod i adnabod Jacquie yn well, mae ei hedmygedd ohoni'n tyfu. Byddai Lara wrth ei bodd yn gallu sgrialu cystal â Jacquie, ond caiff ei hatgoffa o hyd am ei diffyg talent gan Max (16) sy'n ei phryfocio.

Drannoeth, yn y parc, mae Jacquie yn ymddiried yn Lara ac yn dweud wrthi ei bod yn hoyw. I ddechrau, dydy Lara ddim yn poeni am y peth, ond ar ôl breuddwydio am Jacquie mae hi'n dechrau poeni a ydy'r teimladau o edmygedd a chyfeillgarwch cryf yn golygu rhywbeth mwy. Mae Akira yn ei sicrhau nad ydy hynny'n golygu ei bod hithau'n hoyw hefyd, er ei fod yn beth perffaith naturiol i fod yn hoyw. Gan bryderu efallai bod Jacquie yn ei 'ffansïo' hi, penderfyna Lara ddweud wrth Jacquie nad ydy hi'n ei hoffi hi yn y ffordd ramantus.

Mae'n rhyddhad i Lara i glywed nad oedd sail i'w phryderon ac mai eisiau bod yn ffrind iddi hi oedd Jacquie a dyna'r cyfan. Mae Lara'n hapus nad ydy hyn wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch o gwbl, ac mae'r ddwy'n cynllwynio i roi pin yn swigen Max.

Pwnc: ABCh

Testun: Perthnasau

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio'r stori hon i gychwyn trafodaethau am berthnasau un-rhyw. Dylai fod yn agored i grŵp mor eang â phosibl. Mae hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu beth yn union mae grŵp cymysg o ferched a bechgyn yn ei wybod am berthnasau un-rhyw. Gellir defnyddio cymeriad Jacquie i archwilio ac astudio stereoteipiau - a ydyn nhw'n gallu bod yn wir? A allwn ni eu credu? A ydyn nhw'n deg? Agwedd arall sy'n werth ei hystyried ydy preifatrwydd. A ydy rhywioldeb yn rhywbeth preifat? Pam mae pobl yn teimlo fel hyn? Hefyd, gallech ddefnyddio'r bennod hon ochr yn ochr â phennod 13470 sydd hefyd yn ymdrin â pherthnasau un-rhyw.

Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy’r bennod yn addas.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill

• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• gwerthfawrogi amrywiaeth

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• y manteision o gael ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• sefyllfaoedd sy’n esgor ar wrthdaro a natur bwlio

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 i:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi

• sut i adnabod enghreifftiau o ragfarn a stereoteipio, a’u herio’n effeithiol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.