Main content

O na! Mae ‘di Dechrau!

Mae'r rhaglen hon yn son am fisglwyfau

Mae hi’n ddiwrnod ei harholiad iaith ac mae Lara (12) yn deffro i ddarganfod ei bod wedi cael ei misglwyf cyntaf. Mae ganddi ofn sôn wrth unrhyw un am y peth, ac mae hi’n poeni beth fydd pawb yn ei feddwl. Pan mae hi’n rhannu ei chyfrinach gyda’i ffrindiau, maen nhw’n mynd â hi i’r archfarchnad leol, lle mae hi’n dysgu am dywelion (caiff tamponau eu crybwyll ond nid eu disgrifio).

Dysga Tony (13) a Gabriel (13) beth sydd wedi digwydd i Lara, ac wrth sylweddoli bod y merched yn newid, maen nhw’n dechrau meddwl tybed beth fydd effaith hyn ar eu cyfeillgarwch. Mae Max (16) yn dwysáu eu pryderon drwy ddweud bydd y merched nawr ond yn dangos diddordeb mewn bechgyn hŷn fel fe. Diolch i’w ffrindiau, mae pryderon Lara yn cael eu lleddfu a’i hyder yn cael hwb. Er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n tyfu i fyny, mae hi’n benderfynol o beidio â gadael i’r newidiadau sy’n digwydd i’w chorff amharu ar ei huchelgais a’i chyfeillgarwch gyda’i ffrindiau.

Pwnc: ABCh

Testun: Cadw’n Iach

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio’r stori hon i gychwyn trafodaeth am fisglwyf. Mae’r bennod wedi’i llunio i apelio at grŵp mor eang â phosibl. Mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol o asesu beth yn union mae grŵp cymysg o ferched a bechgyn yn ei wybod am fisglwyf. Yn ddelfrydol, bydd y gynulleidfa yn deall yn syml beth ydy misglwyf gan nad ydy’r stori'n rhoi'r ffeithiau biolegol - mae’r bennod yn canolbwyntio ar emosiynau cymysg Lara yn ystod ei misglwyf cyntaf, teimladau’r bechgyn sydd, o bosibl, yn teimlo eu bod yn cael eu cadw allan ac awgrymiadau ar sut y gallai Lara ddelio â’r newid.

Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy’r bennod yn addas.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• gofyn am gymorth a chyngor personol

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)

Gwrando

• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)

Gwrando

• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddangos agwedd gyfrifol at gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• ymaddasu i sefyllfaoedd newydd

a deall:

• y manteision o gael mynediad i wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor.

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.