Main content

Rysait byrgyrs cig oen a tzatziki cartref

Ar gyfer y byrgyrs:

  • Pwys o fins cig oen organig
  • Nionyn coch mawr
  • Garlleg wedi ei stwnsio (dwi’n hoffi eitha’ dipyn – felly’n ychwanegu 3 neu 4 darn)
  • Halen
  • Pupur
  • Llwy de o olew cnau coco

Toddwch yr olew mewn padell, ac ychwanegu’r nionyn a’r garlleg i’w meddalu. Yna, ychwanegwch y gymysgedd i bowlen gymysgu, gyda’r mins, pinsiad o halen a phupur, a’u cymysgu’n dda gyda llaw. Siapiwch y gymysgedd i fyrgyrs (dylai’r cynhwysion wneud 4 byrgyr), a’u ffrio mewn padell ar wres canolog. Fe ddylai’r gymysgedd fod yn ddigon gwlyb i beidio ychwanegu rhagor o olew – ond gallwch roi rhagor o olew cnau coco os ydyn nhw’n dechrau glynnu. Mae tua 3 munud bob ochr yn ddigon.

Ar gyfer y tzatziki:

  • Iogwrt Groegaidd plaen(4 neu 5 llwy fwrdd)
  • Dail mintys ffres wedi eu torri’n fân
  • Chwarter ciwcymbyr wedi ei dorri i ddarnau mân
  • Halen
  • Pupur
  • Sudd un lemwn

Rhowch yr holl gynhwysion mewn powlen go fawr, a’u cymysgu’n dda. Mae’r tzatziki yn dibynnu’n llwyr ar chwaeth bersonol – gallwch ychwanegu mwy neu lai o bob cynhwysyn. Mae wastad yn blasu’n well ar ôl bod yn yr oergell am ychydig o oriau.