Main content

Bisgedi Sian Roberts

Bisgedi Sian Roberts ar raglen Shân Cothi.

Bisgedi Ceirch

Cynhwysion:

  • 225g o flawd ceirch man
  • 50g o flawd plaen
  • 30g o sigwr man euraidd
  • 3 llwy fwrdd o laeth
  • 75g o fenyn
  • ½ llwy de of bowdr codi
  • ¼ llwy de o hufen Tartar
  • ½ llwy de o halen (os wyt ti'n defnyddio menyn di halen)

 - Rhowch y blawd ceirch mewn bowlen.

- Ychwanegwch y blawd, y siwgr man, y powder codi, yr hufen Tartar a’r halen (os wyt ti'n defnyddio menyn di halen).

- Cymysgwch gyda’i gilydd ac ychwanegwch y menyn. Rhwbiwch y menyn i mewn i’r cyfan nes bod y cymysgedd yn edrych fel briwsion bara.

- Ychwanegwch y llaeth a chymysgu a llwy i ddechrau, yna gyda’ch dwylo i ffurfio toes.

- Rholiwch y cymysgedd yn wastad.

- Torrwch yn gylchoedd a gosod y bisgedi ar hambwrdd pobi wedi’i iro.

- Coginiwch y bisgedi am 10 - 15 munud (dibynnu ar eu maint) mewn ffwrn sydd wedi ei thwymo o flaen llaw i 190 c/375 f/nwy marc 5.

Bisgedi Lysh

Cynhwysion:

  • 210g o flawd plaen
  • ½ llwy de o Halen Môn fanila
  • 2 llwy fwrdd o siwgr eisin
  • 175g o fenyn di-halen
  • 1 llwy de o wirod Lysh/neu fanila
  • ¼ llwy de o felyn wy
  • 60 g o gnau almwnd wedi eu sleisio

- Rhowch y blawd a’r halen fanila mewn bowlen a’u cymysgu.

- Mewn bowlen arall, cymysgwch y menyn ac yna ychwanegwch y siwgr eisin, cnau almwnd, gwirod Lysh a’r melyn wy.

- Ychwanegwch y blawd a’r halen yn raddol i greu toes.

- Torrwch y does yn bedair. Rholiwch bob cwarter i siâp selsig, ac yna torri’r siâp selsig yn ddarnau bach.

- Rholiwch bob darn yn eich dwylo i greu peli bach. Rhowch y rhain ar hambwrdd pobi (heb ei iro).

- Gwasgwch y peli yn ysgafn gyda’ch bysedd cyn eu rhoi mewn ffwrn sydd wedi ei thwymo o flaen llaw i 150 c/200 f/nwy marc 2.

- Coginiwch am 10 - 15 munud (yn dibynnu ar faint y bisgedi) nes eu bod wedi dechrau brownio.

- Unwaith bydd y bisgedi wedi oeri, taenwch gyda siwgr eisin.