Bara Diolchgarwch Gareth Richards
Cynhwysion
200g o flawd plaen
50g o bolenta
2 llwy de o bowdr pobi
2 wy
150g o fenyn wedi toddi
150ml o laeth enwyn
TIP: Os nad oes llaeth enwyn gennych chi, fel allwch chi greu peth eich hun yn hawdd drwy
ychwanegu sudd lemon at laeth.
8 sbrigyn o rosmari (tynnwch y perlysieuyn oddi ar y sbrigyn a’i falu’n fân)
125g o gaws gafr wedi’i friwsioni, neu
gaws Caerffili
150g siytni winwns wedi’u carameleiddio
Dull
Cynheswch y ffwrn i 180°C / 375°F / Nwy 5.
Curwch yr wyau, y menyn a’r llaeth gyda’i gilydd ac ychwanegwch halen aphupur.
Hidlwch y blawd a’i ychwanegu at y polenta a’r powdr pobi. Ychwanegwch y rhosmari wedi’i falu, plygu’r cynhwysion gwlyb i mewn a chymysgu.
Llenwch 8 casyn torth bychan wedi’u hiro’n dda.
Rhowch siytni winwns ar ben y cymysgedd a briwsionwch y caws ar ben y cyfan.
Pobwch am 25–30 munud.
Gweinwch yn gynnes gyda menyn, ham Caerfyrddin a phicl.