Main content

Ra-ra ra-ra – Bra!

Mae'r rhaglen hon yn son am y profiad o baratoi am eich bra cyntaf

Wrth redeg yn ras gyfnewid yr ysgol, mae bronnau Lara (12) yn dechrau teimlo’n boenus am y tro cyntaf. Mewn embaras, dydy hi ddim am ddweud wrth unrhyw un. Yn ffodus, mae Akira (12) yn sylweddoli ei bod yn hen bryd i Lara brynu ei bra cyntaf. Mae’r profiad yn ei drysu - nid yn unig dod o hyd i’r siop iawn, ond hefyd mae cymaint o wahanol fras i ddewis rhyngddyn nhw; bras crys-T, bras chwaraeon, bras patrymog. Diolch i’r drefn, mae Lara yn cael help gan ei ffrindiau. Ond yn anffodus, er bod dod o hyd i fra chwaraeon da yn gallu stopio bronnau Lara rhag brifo, sylweddola Lara a’i ffrindiau na wnaiff hyn ei helpu i ennill y ras gyfnewid!

Pwnc: ABCh

Testun: Cadw’n Iach

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio’r stori hon i sbarduno trafodaeth ar ddatblygiadau corfforol yn ystod glasoed. Y nod ydy apelio at grŵp mor eang â phosibl. Mae’r stori hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu faint yn union mae dosbarth cymysg o fechgyn a merched yn ei wybod am yr agwedd gorfforol ar dyfu i fyny. Mae’r olygfa lle mae’r bechgyn yn siarad am ferched yn gwisgo bras hefyd yn un arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried agweddau a pharch. Caiff yr agweddau emosiynol ar dyfu i fyny flaenoriaeth dros y rhai corfforol. Caiff y gair ‘bŵbs’ ei ddefnyddio sawl gwaith pan fydd y merched yn disgrifio’r newidiadau a’r sefyllfa.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• gofyn am gymorth a chyngor personol

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• cael mynediad i ystod briodol o ffynonellau er mwyn cael cymorth, cefnogaeth a chyngor

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.