Main content

Bara wedi'i blethu Elliw Gwawr

Rysait Bara wedi'i Blethu gan Elliw Gwawr

Tra oeddwn i’n byw yn Awstria roeddwn yn bwyta fy siâr o’r bara hwn. Bob dydd byddai Heinz, y perchennog a’r cogydd, yn ei baratoi i’w westeion. Dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae meddwl am y bara yma’n dal i dynnu dŵr o fy nannedd. Wir i chi, mae’n ogoneddus, y bara gorau i mi ei fwyta erioed. Nid yn unig mae’n edrych yn ddeniadol wedi’i blethu, mae’n gyfoethog, yn felys ac yn feddal – perffaith ar gyfer brecwast arbennig. Mae’r rysáit yn gwneud dwy neu dair torth, ond maen nhw’n rhewi’n dda, felly gwnewch un i’w bwyta a rhowch y gweddill yn y rhewgell.

Cynhwysion

85g o fenyn heb halen

300ml o laeth

700g o flawd bara

½ llwy de o halen

14g o furum

55g o siwgr mân

2 lwy de o groen lemon wedi’i gratio

1 llwy fwrdd o siwgr fanila

3 wy ac 1 arall i’w frwsio dros y bara

Dull

Toddwch y menyn mewn sosban ac ychwanegu’r llaeth. Cynheswch nes eu bod yn gynnes ond ddim yn boeth (37°C os oes gennych thermomedr).

Rhowch y cynhwysion sych i gyd mewn powlen, gan wneud yn siŵr nad yw’r halen a’r burum yn cyffwrdd. (Mae halen yn gallu lleihau effeithiolrwydd y burum os yw’r ddau’n cyd-gyffwrdd am yn rhy hir.)

Ychwanegwch y llaeth a’r menyn yn ogystal â’r 3 wy a chymysgu’n dda. Gan fod y toes yn reit wlyb dwi’n ei chael hi’n haws defnyddio peiriant ar gyfer y cam hwn, ond gallwch wneud hyn â llaw, er y bydd yn golygu ychydig yn fwy o lanast!

Ysgeintiwch ychydig o flawd ar y bwrdd a thylino’r toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn.

Rhowch y toes mewn powlen wedi’i hiro ag ychydig o olew. Gorchuddiwch hi â cling film a gadael i’r toes godi am o leiaf awr, nes ei fod wedi dyblu mewn maint.

Pan fydd y toes wedi codi, ysgeintiwch ychydig o flawd ar y bwrdd a rhannu’r toes yn 2–3 darn. Fe fydd yn gwneud dwy dorth fawr neu dair torth lai.

Rhannwch bob darn yn dri, gan eu rholio i ffurfio tair sosej hir. Pinsiwch bennau’r tri darn gyda’i gilydd a’u plethu. Ar ôl plethu’r dorth gyfan, plygwch y darn pen oddi tano fel ei fod yn edrych yn dwt. (Mae’n bosib plethu gyda phedwar neu fwy o ddarnau hefyd, ac mae hynny’n gwneud torth ddeniadol iawn.)

Rhowch y torthau ar dun pobi wedi’i leinio â phapur gwrthsaim a gadael iddyn nhw godi am awr arall neu nes eu bod wedi dyblu mewn maint eto.

Cynheswch y popty i 200°C / Ffan 180°C / Nwy 6.

Pan fydd y toes wedi codi, brwsiwch y torthau ag wy a’u coginio am 20 munud, nes eu bod yn euraidd.

Gadewch iddyn nhw oeri ar rwyll fetel.