Main content

Talwrn T Llew: Beirdd Plant v Beirdd Aberteifi

Trydargerdd - Crynodeb bachog o reolau Gwyddbwyll

Sir Aberteifi
Mae’n frwydyr rhwng dwy fyddin,
Yn fonedd ac yn werin,
A’r nod yw creu cymdeithas wâr
Lle nad oes sgwâr i’r brenin.

Idris Reynolds - 9

Y Beirdd Plant
Os chi’she deall gwyddbwyll,
fe’i dwedaf mewn dwy ffaith:
dyw’r gŵr ond yn diogi
a’r wraig yn gwneud y gwaith.

Tudur Dylan Jones – 9

Cwpled yn cynnwys y gair nos

Sir Aberteifi
Heb yr hawl ces amser braf
Dros nos ‘da gwraig drws nesaf.

Emyr Oernant – 9.5

Y Beirdd Plant
Ymhob dydd o ddedwyddyd
mae ’na sôn am nos o hyd.

Tudur Dylan Jones - 9

Limrig: Un noson gerllaw Cwm Alltcafan

Sir Aberteifi
Un noson gerllaw Cwm Alltcafan
Fe glywais i sgrech y dylluan,
Fe welais ysbrydion,
Toiliod a lladron,
Âi ddim yno mwyach – rhag ofan.

Emyr Oernant – 9

Y Beirdd Plant
Un noson gerllaw Cwm Alltcafan
‘rhag ofn’ yr oedd rhai yn ei yngan,
roedd dyn o Dregaron
yn yngan ‘rhag ofon’
a thafodiaith y lleill oedd ‘rhag ofan’.

Tudur Dylan Jones – 8.5

Cywydd mawl i aderyn

Sir Aberteifi
Roedd ’na un aderyn du
unwaith, a fynnai ganu
ei gân ar lwyfan o lwyn
yn gynnar yn y gwanwyn.
Hwn â’i bib a’n dwg ni bant
hyd lonydd o adloniant.

 ni heno yn unig
heb ei hwyl, heb swyn ei big
yn y cwm, a’r gaea’n cau
i hualu’n meddyliau,
pwy ddaw i byncio’r stori
ac i leihau’n hofnau ni?

Ond mae ei awen heno
yn canu cainc yn y co’
a thrwy nodau dechrau’r daith
awn ’nôl yn blant yr eilwaith
i’r unfan, lle cawn ganu
gyda’r un aderyn du.

Endaf Griffiths – 10

Y Beirdd Plant
Robin Goch

Yn enw rhyw arddwriaeth
Bron-neud-dim rhyw brynhawn daeth
Drwy’r iorwg i’r golwg wy,
Ac er oedi i gau'r adwy
Oedi wnest dithau wedyn,
Ildio dy waith i law dyn.

Ymhen tridiau, sypiau sur
Glaswellt a masgal asur.

Lle'r aeth bwngler o glerwr
Is y dail i gadw stŵr,
Maddau i mi, ddimai mân,
Fynnu fy ffordd fy hunan!

Wedi'r haf, drwy'r gaeaf gau,
Yn y fan gwyliaf innau
O hyn allan amdanat,
Robin Goch ar ben y giât.

Eurig Salisbury – 9.5

Triban Beddargraff cricedwr

Sir Aberteifi
Pan ddeuai e’ i fato
nid hawdd oedd ei How’s-that-o,
ond druan bach, mae ’nawr ar led
a’i wiced wedi’i whacco.

Endaf Griffiths -9.5

Y Beirdd Plant
Bowliodd ei belawd d'wethaf
Rhedodd hyd y crîs pellaf
Sledjodd y dewraf bob tro'n drech
Cyn bwrw ei chwech olaf.

Aneurin Karadog – 9

Hir-a-thoddaid yn cwynnwys “Tua’r Gorllewin”

Sir Aberteifi
Tua’r Gorllewin yn ôl af finnau
I fwthyn unnos hafnos o ofnau,
I wrando’r genedl a wnaed o chwedlau
Yno yn swynion y nos o synau,
A dilyn y pedolau – wna’r cof maith
I oedi eilwaith dan leuad olau.

Idris Reynolds - 10

Y Beirdd Plant
Tua’r gorllewin fe blygwn liniau’n
fyddin o wirfodd, y ni a’n harfau,
ac yn y rhengoedd lle genir angau
ar wyneb un ni synhwyrwn boenau,
a hyd lawr y doluriau - deillion ym,
byddar ydym i swn y beddrodau.

Tudur Dylan Jones - 10

Llinell ar y pryd - Annwyl iawn yw’r gân Swing Low

Sir Aberteifi
Annwyl iawn yw’r gân Swing Low
A’i swn yn Twickers heno.

Y Beirdd Plant
Annwyl iawn yw’r gân Swing Low
A chyrbibs yw ribs Robshaw.

0.5

Telyneg - Canu’n Iach

Sir Aberteifi
Wrth agor cloriau glannau Llethi
Yng nghledr llaw yr oedd y stori
Yn cynnal llwybrau golau cannwyll
Wrth fentro mas i'r noson dywyll.

A ni, y plant, o'n heistedd astud,
Dan swyn y geiriau'n herio'r hollfyd.

Tawelu wnaeth y storm a'r carnau
Wrth gau, dros dro, y tudalennau
A chan fod trysor yn ein dwylo
Nid oedd y gadael yn ffarwelio.

Catrin Haf Jones - 9

Y Beirdd Plant
Ar Fedi’r 19eg eleni bu’n rhaid i fi rhoi un o fy nghathod, Wallace, i gysgu.
Llynedd ar yr union ddiwrnod bu farw fy nghyfnither, Cathryn Anne Rees, o gancr yn 35 mlwydd oed

Daliaist i ganu dy rwndi
Hyd ddiwedd dy gorff eiddil, gwyn.
Daliais dy bawen drwy’r oeri,
Daliais bob nodyn yn dynn.

A llynedd ar ddiwrnod mor llwm
Fe glywais y floedd lawn o “Na”,
Tra syrthiodd dy law dithau’n drwm
Ac yna gaeafodd dy ha’.

Ac eto heno fe’ch gwelaf
Yn disgleirio’n y nen gyda’r sêr,
Ond gyda phob ‘fory fe’ch teimlaf
Yn canu yn iach yn fy mêr.

Aneirin Karadog – 9

Englyn ar y pryd - Draig

Sir Aberteifi
Yn griw awn â’r belen gron - i uno
â chân y gêm hirgron
ar y cae, lle mae’r ddraig hon
eisioes un uwch na’r Saeson

9.5

Y Beirdd Plant
Er cof am dîm rygbi Lloegr!

Gwlad gyfan o gelanedd - a’i gynau
gwynion oll yn gorwedd
a’r ddraig groch, mor goch ei gwedd
wedi “dial o’r diwedd”.

Cyfanswm
Sir Aberteifi – 75
Y Beirdd Plant - 75