Main content

Eog Ficer Dibley, Wayne Roberts

Rysait Eog Ficer Dibley, Wayne Roberts.

Rysait Eog Ficer Dibley, Wayne Roberts.

Cynhwysion:

Darn o Eog hefo’r croen (tua 800gram)

4 llwy fwrdd o Marmaled Cartre

6 Teisengrawn(oatcake) wedi ei falu n friwsion man.

Dull

Rhoi yr eog mewn dysgl coginio hefo chydig o ddwr ar waelod y dysgl.

Taenu marmaled ar draws y wyneb ac yna rhoi y briwsion ar ben y marmaled i ffurfio crwst.

Coginio am rhyw 20-30 munud ar 160 nwy tua 5.

Relish Creme Fraiche

Cymysgu tri llwy fwrdd o Creme Fraiche a tri llwy fwrdd o Chwtni hefo 'i gilydd ai weini mewn ramekin.

Gweini hefo Asparagus a Tatws newydd hefo menyn.