Rysait Cimwch Thai Padrig Jones
Rysait Cimwch Thai Padrig
Mwynhewch y pryd gyda gwydr o win heb anghofio cwmni a cheddoriaeth dda!

Cynhwysion:
2 gimwch (un yr un, neu ½ yr un os yn gweini 4)
Past cyri Thai coch
Rhowch y cynhwysion i gyd mewn cymysgydd i greu y past.
5 chili coch hir
2 i 5 modfedd o sinsir fres (yn ddibynol ar eich dewis)
2 goesyn o lemongrass
6 i 8 clof o arlleg
3 o shallots
1 llwy de o coriander wedi ei falu’n fan
1 llwy de o cumin wedi ei falu’n fan
1 llwy de o bast berdysen (shrimp paste)
2 llwy de o paprica
½ llwy de o turmeric
1 llwy de o halen
1 llwy de o olew rapeseed
1 chili coch
Llond llaw o shibwns (spring onions)
Llond llaw o goriander
Llond llaw o fintys
1 bag o salad cymysg
1 leim
½ tin o laeth coconut
Dull:
- Rhaid berwi y cimwch am 5 munud
- Yna torwch y cimwch yn hanner i lawr ei hyd a’i lanhau. Torri’r cynffon mewn dau ddarn neis i fwyta.
- Cymysgwch y past cyri Thai coch gyda’r llaeth coconut a gorllwyswch y cyfan dros y cimwch.
- Yna rhaid torri’r chilli, shibwns a’r coriander a’u gosod rhain dros y cimwch.
- Rhowch y cyfan yn y popty am tua 12eg munud nes bod lliw neis a bod yn cimwch yn boeth iawn. (Gas 6 neu 200 gradd)
- Cymysgwch y salad gyda’r mintis, radish a sudd leim.
- Gweinwch y cimwch a’r salad gyda sglodion