Main content

The Nutcracker

Neidiwch i fyd Nadolig gyda The Nutcracker gan Tchaikovsky, addasiad hudol o stori E.T.A. Hoffman.

Yn cynnwys cymeriadau arallfydol, gwledydd pell a melysion hyfryd, mae’r hanes yn dod yn fyw gyda chwaraewyr pres ac offerynnau taro Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r llefarydd Kizzy Crawford yn ein fideo arbennig gydag is-deitlau Cymraeg.

Ond mae mwy: byddwch yn greadigol a chael hwyl gyda gweithgareddau celf a chrefft a cherddoriaeth rydyn ni wedi eu creu i’ch cadw’n brysur dros gyfnod y Nadolig. Darganfyddwch stori The Nutcracker, byddwch yn dywysog neu’n dywysoges trwy greu eich coron eich hun, a mwynhewch greu cerddoriaeth yn seiliedig ar ddawnsiau’r Nutcracker.

Rhannwch eich creadigaethau gyda ni ar ein rhwydweithiau cymdeithasol – byddem wrth ein bodd i’w gweld!
Twitter: @BBCNOWCymraeg@BBCNOW
Facebook: BBC National Orchestra of Wales
Instagram: @_bbcnow
#NutcrackerNOW

Gwyliwch a Gwrandewch

Gwyliwch stori The Nutcracker wedi ei adrodd trwy gerddoriaeth a llefarydd yn Gymraeg.

BBC NOW - The Nutcracker (Cymraeg)

BBC NOW - The Nutcracker (Cymraeg)

Gweithgareddau

Rhowch gynnig ar ein gweithgraeddau hwyliog The Nutcracker yn y dosbarth neu adref.