Main content

Teisen Siocled, Mascarpone a Mafon Anya Evans

225 gram Menyn Lurpak heb ei halltu.

Teisen Siocled, Mascarpone a Mafon Anya Evans.

225 gram Siwgr lliw brown golau wedi ei gymysgu gyda llond llwy de o 'Vanilla Essesnce'

Cymysgwch gyda'i gilydd ac ychwanegwch 4 wy mawr i'r gymysgedd.

Ychwanegwch 190 gram o flawd codi gyda 35 gram o bowdwr cocoa a hanner llwy de o bowdwr pobi.

Ychwanegwch i'r menyn, a'r wyau a'i guro'n galed nes y bydd o'n hufennog, ac yna ychwanegwch dau lond llwy fwrdd o ddŵr oer i'r gymysgedd.

Rhannwch rhwng dwy din dal teisen a'i roi yn y popty ar 180 gradd (Nwy 4) am 28 munud.

Cymysgwch 8 owns o'r caws meddal Eidalaidd Mascarpone gydag un llond llwy de o 'Vanilla essence' a dau lond llwy fwrdd o siwgr eisin a'i daenu dros yr hanner gwaelod o'r deisen gan osod y mafon yn ofalus yma ac acw ar yr haen o mascarpone.

Rhowch yr hanner uchaf o'r deisen yn ofalus ar ben y mafon a'r mascarpone ac addurnwch gyda mwy o fafon.