Main content

Polpette al sugo Bethan Jones Arthur

Am y polpette:

2 llwy bwrdd o olew olewydd

1 nionyn fawr wedi’i deisio

450g o friwgig eidion (neu porc) – tymheredd ystafell

2 ewin o arlleg wedi’i minsio

1 llwy bwrdd o oregano

1 llwy bwrdd o basil

1 wy fach, wedi’i guro

Halen a pupur i flasu

Am y saws:

1 llwy bwrdd o olew olewydd

Hanner nionyn wedi’i deisio

1 ewin o arlleg wedi’i minsio

Pinsiad o siwgr

1 tun (400g) o tomatos/passata

1 llwy bwrdd o piwri tomato

4 ddeilen basil, wedi’i rhwygo/torri yn ddarnau bach

Halen a pupur i flasu

I gyflwyno:

2 llwy bwrdd parmesan (opsiynol)

I baratoi y polpette:

Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y garlleg a’r winwn tan iddyn nhw frownio.

Arhoswch iddyn nhw oeri, yna cymysgwch y cig, y garlleg, y winwns, yr wy, y perlysiau a’r halen a phupur mewn bowlen.

Ffriwch darn bach o’r cymysgedd i weld os ydych yn hoffi’r blas (adiwch mwy o’r berlysiau neu’r halen a phupur os oes angen).

Yna, gyda’ch dwylo – falle mae’n syniad i ddefnyddio menyg! – crewch 12 i 15 peli fach o’r cymysgedd. Gwnewch yn siwr eu bod nhw’n yr un maint, yna rhowch nhw i’r ochr.

I wneud y saws:

Eto, cynheswch yr olew mewn padell ac yna ffriwch y garlleg a’r nionyn tan iddyn nhw frownio.

Adiwch y tomatos/passata, y piwri tomato, hanner y dail basil, siwgr, halen a phupur.

Arhoswch i’r saws berwi, yna trowch y gwres bant.

Mewn padell ffrio, coginiwch y polpette mewn olew am o gwmpas 8-10 munud, yn troi y cig pob hyn a hyn i wneud yn siwr bod nhw’n coginio yn gyfartal (dyma pam mae e mor bwysig i wneud nhw yr un maint).

Yn y dwy funud olaf, cynheswch y saws nol i fudferwi. Adiwch y polpette, coginiwch am rhyw 30 eiliad mwy ac yna cyflwynwch (gyda tipyn o parmesan – opsiynol).

Mae’r bryd hwn yn dda ar ben ei hunan neu gyda pasta.

Mwynhewch!