Ni Fydd y Wal - Hawliwch eich baner!
Ym mis Mehefin bydd tîm pêl-droed Cymru yn rhan o Euro 2020.

Fe fydd rhaglen Ifan Evans a Radio Cymru yno drwy’r cyfan yn bloeddio ein hanthem ar gyfer y bencampwriaeth sef ‘Ni Fydd y Wal’ gan Yws Gwynedd.
Gan na fydd modd i’r mwyafrif o gefnogwyr deithio i Azerbaijan na’r Eidal, rydym ni am greu wal goch rithiol!
Rhwng nawr a chychwyn y bencampwriaeth fe fyddwn yn casglu lluniau o gefnogwyr o bob cornel o Gymru a thu hwnt yn gwisgo coch a dangos eu cefnogaeth.
Bydd y lluniau yma'n cael eu gosod mewn darn o gelf torfol a’i defnyddio fel clawr newydd i sengl ‘Ni Fydd y Wal’. Felly byddwch yn greadigol a chael hwyl wrth dynnu eich llun!
Fe fydd y 200 cyntaf i gyfrannu hefyd yn derbyn baner Draig Goch Radio Cymru.
Er mwyn bod yn rhan o’r ymgyrch gyrrwch eich lluniau at ifan@bbc.co.uk.
Ynghyd â’r llun, mae angen darparu'r wybodaeth yma yn eich neges:
- Enw pob person sydd yn y llun.
- Cyfeiriad os yn dymuno derbyn baner Radio Cymru.
Trwy gyfrannu i'r ymgyrch yr ydych yn cytuno i’r amodau isod.
Amodau:
- Mae'n rhaid cyfrannu eich llun drwy e-bostio ifan@bbc.co.uk.
- Fe fydd angen i riant neu warchodwr gysylltu ar ran unrhyw un sydd dan 18 oed. Drwy gyfrannu llun i'r ymgyrch rydych yn nodi eich bod yn cytuno gyda'r amodau defnydd ac hawlfraint isod.
- Bydd y 200 llun cyfraniad cyntaf yn derbyn baner Draig Goch Radio Cymru. Er mwyn rhoi cyfle i gymaint â phosib i dderbyn baner, dim ond un baner gellir ei hawlio gan bob cyfeiriad cartref.
- Byddwn yn dosbarthu baneri tan y 7fed o Fehefin, neu tan fydd ein nifer cyfyngedig o faneri i gyd wedi eu dosbarthu.
- Mae’n rhaid tynnu pob llun gan gadw at ganllawiau cyfredol Covid-19.
- Mae croeso i fwy nag un person ymddangos mewn llun.
- Nid oes sicrwydd y bydd pob llun a gynigir yn cael ei defnyddio fel rhan o’r gwaith celf.
Defnydd ag hawlfraint
Trwy gyfrannu i'n wal goch rithiol rydych yn caniatáu i'r BBC gyhoeddi eich llun ar unrhyw blatfform perthnasol gan gynnwys cyfrifon cymdeithasol Radio Cymru a Cymru Fyw (Twitter, Instagram a Facebook).

Chi fydd eiddo hawlfraint eich cyfraniad. Nid yw'r caniatâd i'r BBC ei ddefnyddio yn ecsgliwsif, a cewch barhau i ddefnyddio'r cynnwys a chaniatáu i eraill ddefnyddio'r cynnwys.
Trwy gyfrannu rydych yn cadarnhau:
- Fod caniatâd i'r BBC gyhoeddi'ch cyfraniad wedi ei sicrhau gan yr unigolion sy'n ymddangos yn y llun (gan gynnwys rhiant neu warchodwr unrhyw gyfrannydd sydd o dan 18).
- Fod gennych hawl i gyhoeddi'r llun.
- Fod gan y BBC yr hawl i olygu eich cynnwys am resymau golygyddol a gweithredol.
- Fel arfer byddwn yn cyhoeddi eich enw a lleoliad gydag unrhyw gyfraniad, oni bai i chi nodi fel arall, ond am resymau gweithredol nid yw hyn wastad yn bosib.
- Nid yw'r BBC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am niwed technegol i unrhyw offer (ffonau symudol, camerâu, cyfrifiaduron ayyb), na chwaith am unrhyw offer gaiff ei golli.
Gwarchod data/ preifatrwydd
Fel rhan o'r cyfraniad, mae'n bosib bydd y BBC yn gofyn am rai manylion personol. Bydd y defnydd o'r manylion hyn yn cydymffurfio ag amodau polisi'r BBC: http://www.bbc.co.uk/privacy/
Bydd y BBC yn cadw manylion personol yn ddiogel ag yn unol â deddfau Gwarchod Data.