Talwrn Tafwyl
1. Trydargerdd - Fy nghymar delfrydol


Caiff fod yn hyll, caiff fod yn hen,
yn ddiflas ac yn drewi,
ond cai fy oll pe rhoddai im
ei docyn i gêm Cymru.
GwennanEvans
Mae’n ffraeth a doeth, mae’n gwmni da
Sy’n gwneud bob dydd yn ddydd o ha’;
Mae’n dal a del, mae’n fardd o fri.
Fy nghymar perffaith yw… y fi.
Pod
2. Cwpled caeth
Ai perthyn i’r un un haid
wna Satan a’r Brexitiaid?
Rhys Iorwerth
Goau cymro, cymro caeth,
di-hanes di-wahaniaeth
Eurig Salisbury
3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae Crach y brifddinas yn cwyno”
Mae crach y brifddinas yn cwyno
A'r frwydyr yn hir a di-ildio;
Cofnodir mewn hanes
Eu hymgyrch rhag gormes
Dros gael gwersi telyn i Gwenno.
Mae crach y brifddinas yn cwyno
Fod pobol yn Ferwig, Llanbabo,
Brynmawr, Cynwyl Elfed
Caergybi a Llanbed
I gyd nawr yn yfed Prosecco.
4. Cywydd
Sgwrs rhwng brodor ac ymwelydd
Wrth ymweld â Phen Llŷn
Ymwelydd:
Gyfaill, dy fyd sy’n gyfan
Yn y fath nefoedd o fan;
Yn fan hyn, rwy’n gweld dyfnhau
Daearyddiaeth dy wreiddiau;
Hon, esgair dy gynhysgaeth
A fydd i’th enaid yn faeth
A gwinllan wrth graig Enlli
Yw caeau dy deidiau di -
Darn o Lŷn cadarn y wlad.
Mi welaf ar ymweliad
Holl hanes y lle ynot
yn llawn... ydw i’n iawn?
Brodor: You wot?
Emyr Davies
Brodor
Ha frodyr eangfrydig!
Nid yw pob dôr yn ddôr ddig;
Ar agor mae dôr Caerdydd,
Mynwy a phob un mynydd
Ym mro Gwynedd, Morgannwg,
Bro’r Cardi’n dwyni di-wg …
Ymwelydd
Ond mae’r ddôr drwy’r gororau
O Saltney i’r Gelli ar gau,
Môn, Ogwr, Dinefwr, Nedd,
Colwyn, Alun, Llanelwedd …
Gwlad ry gul i drigolion
Breuddwydiol hollol yw hon.
Eurig Salisbury
5. Triban beddargraff peldroediwr neu beldroedwraig
Fe giciodd bêl i’r goliau
(a chicio weithiau goesau)
ond clywodd hwn y ffeinal sgôr
trwy gicio’r bwced hithau.
Rhys Iorwerth
’Rôl gyrfa faith o ddisgyn
A hawlio cic o’r smotyn,
Rwyt heddiw yn y bocs drachefn
Ac ar dy gefn, heb gael un.
6 Parodi ar ‘Nawr lanciau rhoddwn glod’
Nawr lanciau dewch ynghyd,
mae hi nawr yn ddiwedd byd,
yr hirddydd a’r heulwen a aeth heibio.
Glaw a gwynt a thywydd gwael
sy’n y fforcast yn ddi-ffael
a’r ŵyn ar y dolydd sy’n trigo.
Gwaredwn oll yn drist
mae amser gwaeth i ddyfod, haleliwia!
Ac ynghanol tywydd drwg,
byddwn oll yn gwisgo gwg,
mae arwyddion dychrynllyd o’n blaenau!
Ffwdl la la, ffwdl la la,
Ffwdl la la, la la la la.
Aeth y wiwer goch i’w gwâl
am ei bod hi’n teimlo’n sâl
mae’n ffodus y gall hi aeaf gysgu.
A’r holl adar aeth ymhell
er mwyn canfod lle sy’n well
nes bo’r goedwig i gyd ’di distewi.
Fe awn yn ôl i’n tai,
er mwyn hir edifarhau,
a byw’n go fain ar wlith a niwl a llymru.
A chwmpeini’r niws am naw
fydd yn ddiflas ar y naw;
mae’r sêr wedi diffodd dros Gymru.
Gwennan Evans
Parodi ar Moliannwn
Nawr Gymry rhoddwn glod
y mae Eisland wedi dod
i wireddu pob un o’n breuddwydion
ar ôl i ni fotio mas
roedd hi’n dechrau troi yn gas
ond daeth cysur gan arwyr y bêl gron
Cyd-ganwn oll yn llon
mae Lloegr wedi sleifio mas o’r Ewros
tra bod Bale a’n hogia ni
yn hawlio mawl a bri -
Fydd neb bellach yn siopa yn Tescos.
Hei! Ffwl-la-la, ffwl-lala, ffwl la-la-la-la-la-la
Ffwl-la-la, ffwl-la-la, ffwl la-la-la-la-la-la.
Daeth hi’n amser dweud ffarwel
wrth Hodge a’i fechgyn swel,
wrth iddynt ymlusgo nôl am adra
Cawsom fargen dau am un
gan y wlad fach ora un
bydd gyfeillio ar y cardiau w’sos nesa.
Cyd-ganwn oll yn llon
mae Lloegr wedi sleifio mas o’r Ewros
tra bod Bale a’n hogia ni
yn hawlio mawl a bri
Fydd neb bellach yn siopa yn Tescos.
Hei! Ffwl-la-la, ffwl-lala, ffwl la-la-la-la-la-la
Ffwl-la-la, ffwl-la-la, ffwl la-la-la-la-la-la.
Esgusodion ddaw’n ddi-baid
ond cawn rewi llif eu llaid,
dweud y cwbl wnaiff ein hogia gyda’i chwarae
ac fe floeddiwn nawr ynghyd
gwledydd bychan mawr y byd
mae arwyddion dymunol o’n blaenau.
Cyd-ganwn oll yn llon
mae Lloegr wedi sleifio mas o’r Ewros
tra bod Bale a’n hogia ni
yn hawlio mawl a bri
Fydd neb bellach yn siopa yn Tescos.
Hei! Ffwl-la-la, ffwl-lala, ffwl la-la-la-la-la-la
Ffwl-la-la, ffwl-la-la, ffwl la-la-la-la-la-la.
Casia Wiliam
8. Cerdd
Parc
Gweledigaeth mewn dau gae pêl-droed
O ba le'r ymroliai'r bêl i Joe Ledley
Oedd ar ras dros Stade de Toulouse a Pharc des Princes?
Ar ôl i’r brain ein dilyn i’r terasau tywyll,
O b'le y deuant, y gôls a fu erioed?
Neu pwy, pwy oedd y saethwr, yr asgellwr sydyn?
Gareth - arwr y maes oedd rholiwr y bêl.
Oddifry, uwchlaw'r dyfarnwr gloywbib, uwch callwib Hal Robson-Kanu,
Dygai i ni ein llwyfan mawr.
Sgoriai i ni'r goliau lle nad oedd
Ond trawstiau'n crynu ac atsain yn y cof...
Am hyn y llafargana'r dorf yn y gwres a'u cwrw
A'r Ewros yn eu gwaed yn gyfandir o angerdd.
Mae'r llawenydd a feddant hwythau'n eu cenedl
Yn Stade de Toulouse a Pharc des Princes heb ofn.
A'u gafael ar y gwrthwynebwyr, y Ffanbarthau llawn pobl.
Diau y daw'r Gêm, a full-time yn ei dro,
Daw Joe Allen, daw Ramsey, daw Ben Davies i'r bwlch,
Daw'r Brenin Bale, a'r brain yn bolltio.
Osian Rhys Jones
Parc
Wrth i’r golau fynd i glwydo’n dawel
daw un i eistedd yma wrtho’i hun,
ac er y gwres daw bysedd gwaedlyd oerfel
i bigo arno fel cydwybod dyn.
Yma bu yn chwarae pan yn blentyn
ei fywyd yn llawn hwyl a chwerthin iach,
a nawr wrth ei droed mae ôl taflegryn
a’i gysgod drosto ef a’i deulu bach.
Rhaid oedd iddo wneud y penderfyniad -
ei ffawd mewn cwch a thocyn yn ei law,
a thra ei fod yn cofio ddoe am eiliad
ni all ddychmygu sut yfory ddaw.
Ond mynd sydd raid am y môr yn eofn
- mae awr o chwarae’n trechu oes o ofn.
Casia Wiliam