Main content

Cacennau Pysgod Sian Roberts

  • 8 owns o bysgod (wedi ei goginio)
  • 8 owns o datws wedi stwnsho
  • 2 llond lwy fwrdd o bersli
  • 1 llwy fwrdd o sudd lemwn
  • Halen a pupur

(Gallwch ychwanegu anchovies neu fara lawr – tua 1 llwy fwrdd)

Cymysgwch popeth at ei gilydd a siapiwch yn gacennau bach.

Taenwch y cacennau mewn wy a briwsion bara – a’u rhoi yn yr oergell am o leia 30 munud.

I goginio – gallwch ffrio’r neu grilio’r cacennau pysgod.

Dip

  • 1 llwy fwrdd o mayonnaise
  • 1 llwy fwrdd o iogwrt (groegaidd)
  • Sudd lemwn
  • Halen a Pupur
  • 1 llwy de o dresin
  • 1 llwy fwrdd o bersli/fara lawr/berlysiau

Cymysgwch y cyfan – a gweinwch gyda’r cacennau pysgod uchod, neu gyda moron, ciwcymber ayyb.

Dresin

Rhowch yr isod mewn potel a’u siglo gyda’i gilydd.

  • Halen a pupur
  • 1 llwy de o fwstard (wholegrain yn ddelfrydol)
  • 4 llwy fwrdd o olew olewydd
  • 1 llwy fwrdd o finegr seidr