Teisen Coffi Anya Evans
Digon i 8

- 225 gram (8owns) o fenyn meddal.
- 225 gram (8owns) o shwgwr muscovado a shwgwr castor
- 225 gram (8owns) o flawd codi
- Un llond llwy de o bowdwr pobi
- Pedwar wy mawr.
- Pedair llwy de o goffi 'instant', mewn llond llwy bwdin o ddŵr berwedig.
Ar gyfer yr eisin blas Coffi
- Cant saith deg a pum gram (chwe owns) o fenyn meddal
- Tri chan pumdeg gram (deuddeg owns) o siwgr eisin
- 4 llwy de o goffi ‘instant’, mewn llond llwy fwrdd o ddŵr berwedig.
Sut i fynd ati:
Cynheswch y popty/ffwrn ymlaen llaw i gant wyth deg centigrad, cant chwe deg os oes 'na ffan yn y popty. Nwy 4.
Rhwbiwch fenyn, a rhowch bapur leinio, mewn dwy din 8 modfedd/Ugain centimedr o ddyfnder.
Rhowch yr holl gynhwysion, ar wahân i’r coffi, mewn powlen a chymysgu’r cwbwl, gan guro’r gymysgedd nes ei fod yn hufennog. Rhowch y coffi ( sydd wedi ei gymysgu’n barod efo’r dŵr poeth) yn y bowlen.
Rhannwch y gymysgedd rhwng y ddwy din.
Rhowch nhw yn y popty am bum munud ar hugain i hanner awr, hyd nes y bydd y cyfan yn lliw brown golau.
Gwneud yr Eisin
Cymysgwch y menyn a’r siwgr, mewn powlen, hyd nes y bydd yn hufenog (smooth).
Ychwanegwch y coffi, a rhannwch y gymysgedd yn bedwar.
Pan mae’r teisennau yn oer sleisiwch y teisennau ar eu hyd ac mae gennych chi bedwar darn o deisen.
Rhowch un ar y bwrdd, gan daenu chwarter yr eisen drosto.
Yna ychwanegwch eisin a theisen am yn ail gan orffen gydag eisin ar y top.
Gallwch wneud y deisen, ddeuddydd ymlaen llaw, a’i rhewi os dymunwch.