Cacennau Taffi Catrin Thomas
12 Cacen fach.

Cynhwysion
180g dates, wedi torri'n fan
1 llwy de o vanilla extract
180g o flawd codi
1 llwy de o ficarb
80g o fenyn meddal
150g siwgr brown meddal
2 wy wedi guro
Ar gyfer y hufen:
125g siwgr caster
80ml hufen dwbl
1/ 2 llwy de o halen
1 llwy de o vanilla extract
160g menyn meddal
200g siwgr eising wedi hidlo
1. Cynheswch y ffwrn i 180C/350F/nwy 4. Rhowch y dates sydd wedi dorri'n fan mewn bowlen, rhowch 180ml o ddwr berw dros y dates a'i gadel nhw am ryw 20 muned. Yna ychwanegwch y vanilla. Cymysgwch yn dda.
2. Hidlwch y blawd, bicarb mewn i fowlen a'i adel i naill ochr. Hufenwch yr menyn a siwgr am ryw 5 muned tan bod'en ysgafn ac yn olau mewn lliw. Ychwanegwch yr wy yn wraddol fach mewn ir menyn a siwgr a'i guro yn dda.
3. Yn olaf ychwnegwch y blawd ar cymysgedd dates. Rhowch yn y casau papur a choginiwch am 15 - 20 muned. Yna gadewch i oeri.
4. Er mwyn neud yr hufen ma ishe cychwyn neud y caramel. Toddwch y siwgr mewn 60ml o ddwr dros gwres isel. Yna cynyddwch y gwers. Gofalwch am y caramel a unwaith ma fe'n troi yn liw caramel tynnwch bant or gwres ac ychwanegwch yr hufen dwbl. Cymysgwch tan bod y cyfan yn dod gyda'i gilydd. Ychwanegwch yr halen a'r vanilla. Gadewch iddo fe oeri.
5. Hufenwch yr menyn ar siwgr eisin am ryw 5 muned mewn peiriant cymysgu ac yna ychwanegwch y caramel. Rhowch yr hufen ar ben y cacennau. Mwynhewch!