Talwrn Tafwyl
Yr Adar Gleision v Yr Adar Brith
Trydargerdd: Hysbysebu Tegan Ail-law
Yr Adar Gleision
#aliveandflicking I’th fyd o rithiau fideo diramant, dyro rym Subbuteo, mae
estyn fflic i gicio ar y cae yn porthi’r co’.
Llion Jones – 8.5
Yr Adar Brith
Dol
Un llygad ar goll; egwan – a rhydd, braidd,
yw ei braich a’i hugan,
ond mae’n y pwythiadau mân
ofid gaeafau cyfan.
Gruffudd Antur-8.5
Brawddeg o’r gair C-A-W-O-D-Y-DD
Yr Adar Gleision
Cyfansoddaf awdl wych, ond diawen, yn ddyddiol
Karen Owen
Clywais am weithgareddau offeiriaid; duwiol ydynt ddiawl!
Rhys Iorwerth
Crefwn anrhydedd weithiau o du ymerodraeth ddifachlud.
Llion Jones - 9
Yr Adar Brith
Cyngor i athro
Cywira ambell wall, ond dewis yn ddoeth.
Mererid Hopwood
Cyngor tad i fab
Cer amdani was – ofni dim yw’r ddawn.
Mererid Hopwood
Cawodydd yn y maes carafannau
Cafodd Arwyn wres o’r diwedd – yna ddim.
Llyr Gwyn Lewis - 9
Tafwyl
Cofio am wefr o Dafwyl yw’r ddelfryd.
Mari George
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Yng nghaeau Pontcanna un noson’ neu ‘Un noson yng nghaeau Pontcanna’
Yr Adar Gleision
Un noson yng nghaeau Pontcanna
Trwy niwlen o fwg Mariwana
Gwelais Waldo, John Cale,
Glyndŵr, Dafydd Êl,
Yn dilyn y Bale i Nirvana.
Llion Jones – 8.5
Yr Adar Brith
Un noson yng nghaeau Pontcanna
mi drawais i sgwrs â rhyw Efa,
roedd hi’n eneth fach bert
mewn dail yn lle sgert,
’nabyddes i ddim hi o Adda.
Mererid Hopwood - 8
Cerdd ar fesur yr englyn milwr yn cynnwys y llinell ‘Y mae dagrau weithiau’n waeth’ neu ‘Y mae dagrau weithiau’n well’
Yr Adar Gleision
Pan fydd prifathro’n honni
fel pe’n ffaith bod dy iaith di’n
farwaidd – chdithau ar ferwi –
a siwdo-selébs wedyn
yn d’erlid, a rhyw bidyn
yn poeri o bapuryn
y dydd ynghylch sain dy ‘ell’
neu dy ‘ech’, yn llawn dichell,
y mae dagrau weithiau’n well –
o chwerthin. Ac i’w tinau
tyngaf y gwasgaf y gau
a’i gywiro â geiriau
hynod groch. Ond bod y gri
yn waedd heb fod sŵn iddi
am mai’n ’y mhen y mae hi.
Rhys Iorwerth - 10
Yr Adar Gleision
Doedd dim dwy ar bwy fu’r bai,
ond gwên amynedd meddai’n
dawelach nag y dylai:
‘y mae dagrau weithiau’n waeth’;
yna trodd, oedodd, ac aeth
yn ŵr oer ei arwriaeth
at y drws, a chloi’r tu draw,
mewn cist, ei galon ddistaw,
cyn gwylio iaith cân y glaw’n
dweud dim yw dim, Duw a ŵyr;
nes heno, pan ddaeth synnwyr
y geiriau llaith â’r gwir llwyr
at y claf: ‘a phob stafell
ar gau, i ddod o’r gawell
y mae dagrau weithiau’n well’.
Mererid Hopwood - 10
Pennill ymson beirniad sioe dalent
Yr Adar Gleision
Mae hyn fel bod mewn steddfod
jest heb y rheol iaith;
mae'n well gan nad oes gorfod
cael tents na mwd ychwaith.
Y gwych Great British talent show:
i'r Cymry, that's the way to go.
Rhys Iorwerth - 9
Yr Adar Brith
Tybed be ga’ i i swper?
Wy’n llwglyd ar y jiawl.
Lobsgows neu botes, goulash, broth?
Sa i’n credu – sa’i moyn cawl.
Llyr Gwyn Lewis – 8.5
Cân: Parodi ar ‘Hen Wlad fy Nhadau’
Yr Adar Gleision
Hen-naits fy ffrindiau
Mae hen-naits fy ffrindiau yn atgas i mi,
gwlad Brits a phartïon Caint-ddynion di-ri,
hen gwrw, gor-yfwyr, Grolsch-garwyr tra ‘mad’
dros wefan trefnasant eu stag.
Gwîn! Gwîn!
Lager, ouzo a gwin!
Dramor mae bar sydd byth yn cau,
does ryfedd i’r hen-naits barhau.
‘Rhen Gymry fodlonant ar dafarn leol glyd,
ond heddiw rhaid iario i bedwar ban byd:
Berlin, Barcelona, mor ffiaidd yw ffi
yr hen-naits beunyddiol i mi.
Mor trashd yw’r briodferch fe dorrodd ei throed,
Mae hen-nait y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd ‘run ohonom gan erchyll ben mawr,
Mi godwn lwncdestun i’r wawr:
Gwîn! Gwîn!
Lager, ouzo a gwin!
Dramor mae bar sydd byth yn cau
O bydded i’r hen-nait barhau!
Gwyneth Glyn – 10
Yr Adar Brith
Mae’r hen archfarchnadoedd yn annwyl i mi
Gwlad llawn o fargeinion, cynigion di-ri’,
Ei gwrol fag-gariwyr,
Y siopwyr tra mad
yn gweld pa ddêl sydd tw bî had.
Rhad! Rhad! Bryna’ i o, os ydi o’n rhad.
Dim ots o ble ddaeth
Na pha gr’adur a’i gwnaeth,
Mi pryna’ i o, os ydi o’n rhad.
O! hybarch archfarchnad, paradwys y sgint,
pob ffrwyth, pob llysieuyn ar gael ’mond am bunt
Dim ots am gyflenwyr, y ffermwyr na’u ffi
Os pasiwch y sefings i mi.
Rhad! Rhad! Bryna’ i o, os ydi o’n rhad.
Dim ots o ble ddaeth
Na pha gr’adur a’i gwnaeth,
Mi pryna’ i o, os ydi o’n rhad.
Llyr Gwyn Lewis – 10
Llinell ar y pryd – yn y ffair ‘rwy’n hoff o hel
Yr Adar Gleision
Yn y ffair ‘rwy’n hoff o hel
Dynion ar drên dwy dwnel.
Yr Adar Brith
Yn y ffair ‘rwy’n hoff o hel
Deg dyn, ac wedyn gadel.
0.5
Telyneg mewn tafodiaith: Brwydr
Yr Adar Gleision
Ei waith ydi reslo
a sgrapio 'di'r swydd,
er mai hwn ydi'r enaid
sy'n cleisio mor rhwydd;
Di-gyflog 'di'r gwaedu,
a waldio 'di'i waith,
er mai fo ydi'r Cymro
sy'n crio dwy iaith;
Mae'i yrfa'n ganrifoedd
ac yn gwffio i gyd,
er mai ddoe oedd y frwydyr
sydd yma o hyd;
Ond yn ffrwgwd yr oesoedd
mae'r ffeit fwyaf un,
am mai hwn ydi bradwr
ei gysgod ei hun.
Karen Owen – 9
Yr Adar Brith
Co ti ’to
yn trio mynd o’r tŷ i’r car,
a finne’n rhoi help llaw,
dy lusgo yn ein gwasgu’n un.
Ma’r plant yn raso’n greulon
lan y dreif,
eu tra’d yn sgathru’r cof
fel llunie coll …
… ein llunie ni ein dou
yn raso’n gilydd
slawer dydd
ar drac y parc
ac tithe’n gadael i fi ennill.
Awn am sbin
i siarad
am bob peth
ond am y siwrne hon.
Mari George – 9.5
Englyn ar y pryd – Traeth
Yr Adar Gleision
Fel erioed bu’r haul yn oedi ymhell
i’r môr, nes daeth ‘leni
rhwng palmwydd llonydd y lli
eiliadau o fwledi.
9.5
Yr Adar Brith
Naddwn ddau enw’n fan hyn – a rhythwn
ar draethell ddiderfyn,
ond dwi’n gweld y tonnau gwyn
yn dileu dy ôl wedyn.
9.5
Cyfanswm
Yr Adar Gleision – 73.5
Yr Adar Brith – 73.5