Main content

I fyny ac i lawr

Mae'r rhaglen hon yn son am ddatblygiadau corfforol yn ystod glasoed

Hyd: 11:53

Mae’r criw ar drothwy disgo gwisg ffansi’r ysgol ac mae Gabriel (13) yn mynd fel yr arwr 'Super-Cŵl' mewn siwt leicra dynn. Ond mae ‘na un broblem: mae Gabriel wedi dechrau cael codiadau - a hynny, fel arfer, ar yr adegau mwyaf annisgwyl. Gan ei fod yn gwisgo siwt leicra mor dynn i’r disgo, mae Gabriel eisiau dod o hyd i ffordd o stopio’r codiadau. Nid Gabriel yn unig sy’n poeni am ei wisg - dydy Lara (12) ddim yn hyderus â’i gwisg hithau ‘chwaith, ac mae Monica (11) yn ei pherswadio i wisgo gwisg o ddrama’r ysgol y llynedd. Ond, doedden nhw ddim wedi sylweddoli mai’r ddrama ddiwethaf oedd yr Hen Fam Ŵydd ac mae ei dillad gŵydd yn gwneud i Lara deimlo’n wirionach byth. Yn y disgo, mae Gabriel a Lara’n teimlo’n chwithig a llawn cywilydd, ac maen nhw eisiau mynd adref, ond mae Tony (13) yn cael syniad sy’n rhoi hwb i hyder Lara ac yn arbed Gabriel o sefyllfa annifyr.

Pwnc: ABCh

Testun: Glasoed

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Er bod y bennod hon yn canolbwyntio ar godiadau fel rhan o stori’r cymeriad gwrywaidd, gellir ei defnyddio i sbarduno trafodaeth gyffredinol ar ddatblygiadau corfforol yn ystod glasoed. Gyda’r nod o apelio at grŵp mor eang â phosibl, mae’r bennod hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu faint yn union mae dosbarth cymysg o ferched a bechgyn yn ei wybod am yr agweddau corfforol ar dyfu i fyny. Caiff yr agweddau emosiynol ar dyfu i fyny flaenoriaeth dros y rhai corfforol. Ni ddefnyddir unrhyw ddelweddau o godiadau na bratiaith/slang. Cawn ddisgrifiad o godiadau a beth sy’n eu hachosi gan un o’r bechgyn, sy’n darllen y wybodaeth o wefan iechyd ar y we (mae’n ddisgrifiad y byddech yn ei ddarllen mewn geiriadur). Mae stori’r cymeriad benywaidd yn canolbwyntio ar deimladau hunanymwybodol Lara a’i phryderon am ddangos ei chorff mewn gwisg dynn. Gallech ddefnyddio’r olygfa hon i arwain at drafodaeth am y ffordd y mae eraill yn ein gweld ni a’r ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain. Gallech ei defnyddio hefyd i ystyried sut mae enwogion yn cael eu portreadu yn y cyfryngau ac effeithiau’r portreadau hynny ar bobl ifanc.

Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy’r bennod yn addas.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• gofyn am gymorth a chyngor personol

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp a chymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.