Main content

Cawl Jen Jones

Cynhwysion

Llun gan Dewi Glyn

2 nionyn

Olew olewydd

2 daten wedi torri'n fan

2 lond llaw fawr o bennau dail poethion

500ml stoc llysiau

Pupur a halen

Dull

Coginiwch y nionyn yn ysgafn yn yr olew nes bydd yn feddal. Ychwanegwch y tatws, dail poethion a coginiwch eto am funud bach.

Arllwyswch y stoc i'r sosban a dewch ar cyfan i ferwi. Trowch y gwres i lawr ai fudferwi nes bydd y tatws wedi coginio.

Tynwch y sosban oddi ar y gwres a llyfnwch y cawl.

Ychwanegwch halen a pupur.

Gallwch hefyd ychwanegu hufen dwbwl, cinamon neu garlleg i siwtio eich blas.