Main content

Rysait Cyw Iar Coronog

Rysait Cyw Iar Coronog Liz Scourfield

Rysait Cyw Iar Liz Scourfield

Cynhwysion:

2 gwpan winwns wedi eu torri
Llond llwy fwrdd o olew
1 cwpan o flawd plaen
9 cwpan o ddwr
3 ciwb stoc cyw iar
Tun fach o hufen cnau coco (coconut cream)
1 cwpan jeli cyrains coch (redcurrant jelly)
1 cwpan picl Branston (Branston pickle)
Hanner cwpan jam bricyllen (apricot jam)
Hanner cwpan paste cyri (cryfder o’ch dewis)
1 cwpan hufen dwbl
1 cwpan mayonnaise.
Halen a Phupur
Cig wedi ei dynnu o 2 cyw iar mawr.

Dull:

Ffriwch y winwns mewn olew mewn padell ddwfn new iddyn nhw feddalu. Ychwanegwch 8 cwpan o ddwr a’r ciwbiau stoc. Dewch a’r cyfan i’r berw.

Mewn powlen fawr arall, cymysgwch y blawd gydag un cwpan o ddwr a’i guro nes bod dim lynpiau yn y gymysgedd.

Ychwanegwch yr hylif berwedig i’r bowlen sy’n dal y blawd a’r dwr cymysg, yn wisgo/curo drwy’r amser.

Rhowch y cyfan ynol i’r badell a dewch ag e i’r berw unwaith eto.

Mae’r dull yma yn osgoi gorfod troi a throelli’r hylif er mwyn osgoi lympiau yn y saws wrth i’r hylif gynhesu o fod yn oer.

Pan mae’r gymysgedd dal yn berwi,chwanegwch y pickle, jeli, curry paste, y jam a hufen cnai coco. Cymysgwch y cyfan.

Ychwanegwch halen a phupur i flasu, a mwy o bast cyri os oes angen. Os ydych chi’n hoff o gyri cryf, thowch ychydig o cayenne pepper i mewn (yn ofalus, mae’n cryfhau mewn amser).

Yna ychwanegwch yr hyfen ddwbwl. Arol i’r gymysgedd oeri, ychanegwch y mayonnaise ac yna i orffen, cymysgwch y cyfan gyda’r cig cyw iar.

Fe fydd hwn yn bwydo tua 10 o bobol.

Gweinwch gyda reis, salad neu taten pob.