Main content

Enillydd Tlws Coffa Dic Jones 2015

Enillydd Tlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau’r gyfres ydi Gaeth Neigwl o dîm Y Tir Mawr

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) i unrhyw greadur

Daeth y brid Dafad Benfrith y Rhiw i ben tua chanol pumdegau'r ganrif ddiwetha. Tarddiad y brid yn ôl traddodiad oedd tair dafad a lwyddodd i ddod i'r lan oddi ar sgwner a chwythwyd ar y creigiau ym Mhorth Neigwl ddwy ganrif ynghynt.


Dwrn o wynt o Dir na nOg
a gwlân Neigwl ewynnog
yn tewhau ar y tywyn.
O hwrdd y lli, daeth praidd Llŷn.

Yna, ond un ohonynt
ar riw gwyllt y môr a'r gwynt.
Ddiwedd haf, dilynodd hi
Ei thylwyth i'r porth heli.

Ond daw bref o'i chynefin
Fel berw iaith ar wefl brin;
Hi yw'r ias ar fawd a red
Y wellaif wedi'r golled.


Gareth Neigwl