Main content

Edrych ar ôl Lara

Mae'r rhaglen hon yn son am deimladau a theimlo'n isel.

Hyd: 11:48

Yn llawn cyffro, mae'r criw'n cynllunio trip i'r sinema, ond mae pawb yn sylwi bod Lara (12) ychydig bach yn isel – mae hi'n dawel iawn ac yn dewis ffilm wirion, slapstic yn hytrach na'r ffilmiau mwy difrifol a thrist mae hi'n eu hoffi fel arfer. Mae Lara yn siarad â'i mam ac yn esbonio fod ganddi hiraeth ond dydy hi ddim yn gallu cyfaddef hyn wrth ei ffrindiau, rhag iddyn nhw feddwl ei bod hi'n ddwl.

Pan fydd yr athrawes yn rhoi tasg i'r dosbarth i ysgrifennu am adeg pan oedden nhw'n teimlo'n drist, ceisia Lara egluro ei theimladau i Akira (12) ond mae hi'n cael trafferth eu cyfleu nhw i'w ffrind. Ar ôl derbyn pecyn arbennig gan ei mam, mae Lara yn colli ei thymer ac yn gweiddi ar Monica (11), ac yna'n rhedeg i ffwrdd i guddio ei dagrau. Yn betrusgar, mae hi'n penderfynu gwneud apwyntiad i fynd i weld cynghorwr yr ysgol, ond dydy hi ddim yn llwyddo i gael apwyntiad tan y diwrnod canlynol. Yn y cyfamser, mae ei ffrindiau wedi synnu at ei hymddygiad, ond wedyn maen nhw'n deall beth sy'n bod – mae ganddi hiraeth am adref.

Penderfyna'r criw fod angen i Lara siarad am hyn, a heb wybod am fwriad Lara ei hun, maen nhw'n cynllwynio i'w chael hi i fynd i weld cynghorwr yr ysgol. Mae cynlluniau'r ffrindiau'n mynd o chwith, a dim ond llwyddo i ddychryn Lara druan maen nhw. O'r diwedd, penderfyna Tony (13) wrando'n iawn ar yr hyn sydd ganddi i'w ddweud. Mae Lara'n teimlo'n well ar ôl eu sgwrs ac mae'r ddau'n ei heglu hi tua'r sinema i ymuno â'r lleill – i weld y ffilm roedd Lara eisiau ei gweld go iawn. Maen nhw i gyd yn crïo wrth wylio'r ffilm, ac yn sylweddoli ei fod yn beth iach i rannu eu teimladau gyda'u ffrindiau.

Pwnc: ABCh

Testun: Cadw'n Iach

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gallech ddefnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth am deimladau a'r amrywiaeth o bobl sydd ar gael i siarad gyda nhw pan fyddwn ni'n teimlo'n isel. Hefyd, gallech ddefnyddio'r stori i drafod sut i sylwi ar ymddygiad anarferol neu wahanol i arfer mewn ffrindiau a beth allech chi ei wneud i helpu. Gallai hyn helpu i bwysleisio'r ffaith fod lles emosiynol yr un mor bwysig â lles corfforol.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• cymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach

• gwerthfawrogi teulu a ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro

• gofyn am gymorth a chyngor personol

a deall:

• y manteision o gael teulu a ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol.

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.