Main content

Cwympo Mas

Mae'r rhaglen hon yn son am hormonau a sut maen nhw'n gallu effeithio ar ein hwyliau.

Hyd: 11:48

Mae'n ddiwrnod y prawf iaith ac mae Tony (13) wedi deffro mewn tymer drwg iawn. Mae Gabriel (13) a Llion (13) yn cael hwyl fel arfer, ond mae Tony yn teimlo popeth i'r byw. Yn ystod y diwrnod, mae Tony'n mynd yn fwy a mwy dig tuag at ei ffrindiau. Pan ddaw ei gyfle i wneud y prawf, mae'n gwneud smonach o bethau. Yn y cyfamser, mae Monica (11) yn benderfynol o wneud cacennau bach gorau'r byd, ac yn mynd ar nerfau Lara (12) ac Akira (12).

Dechreua Monica'n dda, ond yn fuan iawn penderfyna weithio'n ôl ei greddf yn lle darllen y rysáit. O ganlyniad, mae'r cacennau bach yn erchyll. Er mwyn peidio â brifo ei theimladau, mae Lara, Akira, Gabriel a Llion yn esgus mai'r cacennau bach ydy'r rhai gorau iddyn nhw eu blasu erioed. Ar ôl y prawf, mae Tony mor ddig, mae'n troi ar Monica. Dyweda wrthi mai ei chacennau bach hi ydy'r rhai gwaethaf y mae erioed wedi'u blasu. Sylweddola Tony ei fod wedi mynd yn rhy bell wrth i'w ffrindiau droi yn ei erbyn.

Dydy e ddim yn deall beth sy'n digwydd; mae ei hormonau mor anwadal. Yn raddol, mae Tony yn profi i'r grŵp nad oedd wedi bwriadu brifo teimladau Monica ac maen nhw'n maddau iddo am ei ymddygiad; mae pawb yn cael diwrnod gwael weithiau, ac mae hynny'n rhan o dyfu i fyny.

Pwnc: ABCh

Testun: Perthnasau: Teimladau

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Cyflwyniad defnyddiol i hormonau a sut maen nhw'n gallu effeithio ar ein hwyliau, yn arbennig yn ystod dyddiau cynnar ein harddegau wrth iddyn nhw godi a gostwng yn annisgwyl. Gellir defnyddio'r stori hon i archwilio technegau ar gyfer rheoli ymddygiad sensitif, ymddygiad ymosodol a theimlo'n isel. Gellir defnyddio stori Monica i gychwyn trafodaeth am onestrwydd a pham mae hi weithiau'n hanfodol trafod pethau anodd. Gellir defnyddio'r bennod hon ar y cyd â phennod 13481 i ddangos bod newidiadau hormonaidd a hwyliau oriog yn effeithio ar fechgyn yn ogystal â merched.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro

• gofyn am gymorth a chyngor personol

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• y manteision o gael teulu a ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol.

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro

a deall:

• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.