Main content

Arall Fyd

Penillion

Drws yn clepian a’r llenni’n cau,

mae’n clicio ei archeb,

yn hanner gwrando ar y peiriant ateb;

suddo i’w gadair a’i fyd yn ei law,

mae’n hercian sianelau

ar daith ar hyd y rhwydweithiau.

Bore arall, llafn o olau gwyn,

cyn dilyn ei drywydd,

cip bach sydyn ar ap y tywydd;

ffrynt o’r gorllewin yn addo tro ar fyd

ac ar ffrwd y newyddion

hunanladdiad cymeriad mewn sebon.

Cytgan

Ac o sgrîn i sgrîn

o lun i lun

mae’r darnau’n dod ynghyd,

ac o rith i rith

mae o’n mynd o’n plith

i fyw mewn arall fyd.

Middle 8

Presennol parhaol

Absennol o’r gorffennol

Newyddion yn sebon

A sebon yn newyddion