'Feji Cyri' Betsan Evans
Cynhwysion

2 Winwns wedi torri'r fan
10-15 Madarch
2/3 Moron
1 Pupur Coch
1 Chilli
4 clof o arlleg
(tua un bag) Spinoglys ffres
(tua hanner bag) Kale
Tin o ffa pys
Cwpan o lentils coch
1/2 tin o laeth coconut
Tin o Tomatoes
1 llwyed ford o olew coconut
1 llwyed ford o bowdwr cyri
Darn o sinsir
Halen at eich blas
Myg o Reis basmati
4 taten (Maris Piper yw'r gorau)
Dull
1. Rhowch y ffwrn ymlaen ar 220... Tra bod yr olew coconut yn toddi yn y sosban. Torrwch y winwns (yn fan) ac yna'r madarch. Trosglwyddwch y ddau mewn i'r sosban ar wres isel iawn a'i ffrio yn araf araf. Tua 10-15 munud a chadw troi pob hyn a hyn.
2. Wrth i'r winwns a'r madarch ffrio torrwch y pupur coch a'r moron. Wrth dorri'r moron torrwch yn ddarnau mawr. A rhoi i'r naill ochr.
3. Torrwch y cili yn hanner ac yna cael gwared â'r hadau os nad ydych chi eisiau'r cyri yn rhy dwym. Tynnwch groen y garlleg a thorrwch ddarn o sinsir sydd tua rhu'n maint a chlof o arlleg bach. Trosglwyddwch y 3 i mewn i'ch blendyr ychwanegwch y llaeth coconut a'r tomatoes ac yna blendio.
4. Erbyn hyn dylai'r winwns a madarch fod wedi ffrio digon. Ychwanegwch y powdwr cyri a'r lentils coch a chadw troi am ryw funud neu ddwy.
5. Adiwch y ffa pys, moron, pupur coch i'r sosban a chymysgwch i mewn gyda'r winwns a'r madarch a'i ffrio am ryw funud neu ddwy arall. Cadwch droi a wnewch yn siŵr fod y gwres dal yn isel bod y lentils yn gallu sticio i waelod y sosban.
6. Arllwys y saws sydd wedi ei blendio ac yna'r spigoglus a'r kale yna ei adael i fud berwi am ryw 30-40 ar wres isel neu tan fod y garetch wedi coginio.
7. Tra bod y cyri yn fud ferwi rhowch y reis mewn i sosban a'i boddi mewn dŵr oer a gadael naill ochr i socian am ryw hanner awr.
8. Torrwch y tato mewn i sglodion gadael adael y croen ar y daten. Yna ei ferwi mewn dŵr am 5 munud. Cofiwch adio halen i'r dŵr tua llwyed de.
9. Unwaith mae'r tato wedi berwi am 5 munud. Gwasgarwch y dŵr ac yna trosglwyddo'r tato nol mewn i'r sosban yna adio tamed o olew olive, halen a phupur. Rhoi'r clawr ar ei ben a siglwch y sosban yn ffyrnig. Does dim ots os mae'r tato yn torri mae'n neu nhw'n fwy crispi a ffein. Rhowch y tato ar backin tray a'i rhoi yn y ffwrn am 40 munud.
10. Rhyw 1/4 cyn bod y cyri a'r sglodion yn barod rinswch y reis mewn dŵr oer tan fod y dŵr yn glir, rhowch e nôl mewn i'r sosban yna adiwch mwy o ddŵr. Dim ond rhyw hanner modfedd uwchben y reis sydd angen. Yna berwch y dŵr ac unwaith mae'r dŵr wedi beri trwoch y gwres lawr mor isel a gallwch, dylai’r reis fod yn barod o fewn 10 munud. Cadwch lygaid a chofiwch roi clawr ar y sosban!!
