Main content

Brwydr y Bandiau 2016

Cyfle i gael sylw ar C2, chwarae ym Maes B, a gwobr ariannol!

Yn dilyn llwyddiant Brwydr y Bandiau C2, Maes B a Menrtau Iaith Cymru 2015 rydan ni’n falch o gyhoeddi fod y gystadleuaeth yn ei hôl ar gyfer 2016.

Siawns da i gael enw band allan – profiad gwych iawn.
Lost in Chemistry

Lost In Chemistry o’r Barri oedd y buddugwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod, ac ers hynny mae nhw wedi cael perfformio ym Maes B, mae eu caneuon i’w clywed yn gyson ar C2 BBC Radio Cymru, dangoswyd fideo ar raglen Ochr 1 ar S4C, a fe ymddangosodd erthygl yng nghylchgrawn Y Selar. Ar ben hyn oll, fe enillon nhw wobr ariannol o £1,000.

Felly os ydach chi mewn band neu’n artist unigol, ac awydd profi yr un math o lwyddiant, yna dyma’ch cyfle chi i fynd ati i gystadlu yn Brwydr y Bandiau 2016.

Yr un yw’r gwobrau eto eleni, a meddyliwch sut brofiad fyddai cael rhannu llwyfan a pherfformio ym Maes B gyda grwpiau fel Candelas, Sŵnami, Y Ffug ac Yws Gwynedd, yn ogystal â chlywed eich caneuon chi ar raglenni radio C2 BBC Radio Cymru.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 20 Chwefror 2016, sef Diwrnod Gwobrau’r Selar, a chynhelir rowndiau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.