Main content
Diwrnod Diolch O Galon
Mae Diwrnod Diolch o Galon, a ddarlledir yn fyw ar Radio Cymru, yn rhan o flwyddyn o ddathliadau Radio Cymru yn 40 oed eleni, ac yn gyfle i ddiolch i’r gwrandawyr ac i’r rheiny sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr orsaf ers 1977.

Does dim angen tocynnau ac mae croeso i bobl gyrraedd unrhyw bryd yn ystod y dydd.
Ymunwch â ni i fwynhau gwledd o gerddoriaeth a darllediadau byw yn Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd ar ddiwrnod Santes Dwynwen (25/1/17) neu eisteddwch yn ôl ac fe ddown a'r cyfan yn fyw i'ch cartref.
Dydd Mercher 25 Ion 2017
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
AM DDIM
Agored i bawb rhwng 10am – 5pm
Shân Cothi
Yws Gwynedd
Alys Williams
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC